'Gobeithio caf fynd â'r babi i gwrdd â'i Dad-cu'

Ffynhonnell y llun, Rhodri ab Owen

Disgrifiad o'r llun, Y cyn-AC Owen John Thomas a'i efeilliaid Rhodri a Rhys

Wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd holl drigolion a staff mewn cartrefi gofal sydd ag achosion o coronafeirws yn cael eu profi, dywed Rhys ab Owen ei fod yn teimlo fod ei dad, Owen John Thomas, fu'n Aelod Cynulliad, "wedi cael ei esgeuluso" oherwydd yr oedi.

Ddydd Sadwrn dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cymryd y cam newydd hwn "wrth i'r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf ddangos y dylid ymestyn profion mewn cartrefi gofal i reoli achosion sy'n codi".

Mae dyfodiad haint coronafeirws a'i sgil effeithiau wedi ysgogi Rhys i ysgrifennu cofnod am ddigwyddiadau'r mis diwethaf:

Cofnod Rhys ab Owen

Dydd Iau 12fed o Fawrth oedd hi ac roeddwn i'n cwblhau darn o waith ar gyfer y llys y diwrnod canlynol. Roeddwn yn bwriadu mynd i weld Dad ar ôl gorffen. Doeddwn heb ei weld ers ddydd Sul pan ddaeth am ginio i'n tŷ ni ac roeddwn wedi dechrau poeni y byddai'r cartref yn gorfod cau'n fuan oherwydd y COVID-19.

Cyrhaeddais am bedwar o'r gloch ond roeddwn i'n rhy hwyr. Cefais fy nghyfarch gan Suzie sy'n gweithio yn y dderbynfa. Roedd hi'n llefain - roedd y cartref wedi ei gau i ymwelwyr bum munud ynghynt. Wrth gerdded oddi yno roeddwn yn gwybod y byddai misoedd yn siŵr o fynd heibio cyn i mi gael ei weld eto.

Ffynhonnell y llun, Rhys ab Owen

Disgrifiad o'r llun, Rhys a'i dad yn 1993

Mae fy nhad, Owen John Thomas, yn 80 oed ac wedi cael diagnosis o dementia ers 2013 - er ei fod yn amlwg i ni fel teulu bod rhywbeth o'i le ers blwyddyn neu ddwy cyn hynny. Rwy'n cofio darllen y llythyr yn cadarnhau y diagnosis yn Mawrth 2013 ac arswydo wrth feddwl beth oedd o'i flaen ef ac o'n blaenau ni.

Fe geision ni ei gadw adref, ym Mhen-y-lan, Caerdydd, ei gartref ers 30 o flynyddoedd, am gyn hired â phosib. Byddai Rhodri, fy mrawd, a fi'n aros yno bob wythnos er mwyn i Mam gael seibiant. Ond yn Chwefror 2019 bu'n rhaid i ni wneud penderfyniad anoddaf ein bywydau a symud Dad i gartref gofal, gan mai dyma oedd y lle mwyaf diogel iddo.

'Staff yn bopeth i bawb'

Mae'r cartref ym Mae Caerdydd yn hyfryd - bu fy mam-gu a fy modryb yn breswylwyr yno ac mae'r Gymraeg i'w chlywed ymysg y staff a thrigolion. Mae'r gofal yno'n arbennig.

Roeddwn i'n llawn edmygedd o'r staff cyn Covid-19 ond mae fy marn amdanynt a'm parch tuag atynt wedi codi hyd yn oed yn uwch bellach. Heb deulu a ffrindau'n gallu ymweld, mae'n rhaid iddynt fod yn bopeth i bawb ar hyn o bryd.

Tan yn ddiweddar, roedd diffyg cyfarpar diogelu personol (PPE) yn y cartref ac roedd hyn yn destun pryder mawr i mi o ran diogelwch y staff yn ogystal â'r preswylwyr. Er y prinder PPE, roedd y staff yn barod i beryglu'u hiechyd er mwyn gofalu am ein teuluoedd - mae'n dyled yn anferth iddynt.

Ffynhonnell y llun, Rhys ab Owen

Disgrifiad o'r llun, Rhys ab Owen a'i dad

Ond mae'r cyfarpar yn dod â'i heriau hefyd - gallaf ddychmygu ei bod yn llawer fwy anodd cyfathrebu gyda masg neu visor yn gorchuddio'ch wyneb. Mae'n anodd hefyd meddwl bod yr ychydig wenau cyfarwydd mae Dad yn eu gweld dyddiau hyn yn guddiedig.

Peth arall sy'n fy nhristáu am y sefyllfa yw y ffaith nad yw Dad yn gallu gadael y cartref o gwbl ar hyn o bryd. Mae e wedi bod yn dod atom am ginio dydd Sul bob wythnos - uchafbwynt yr wythnos i mi - ac hefyd ar dripiau lawr i'r Bae.

'Uchafbwynt ei yrfa'

Yn y Bae mae'n gallu gweld y Senedd - adeilad sy'n agos iawn at ei galon ac un mae'n parhau i'w adnabod. Treuliodd rhan fwyaf o'i oes yn ymgyrchu am Senedd i Gymru ac uchafbwynt ei yrfa, os nad ei fywyd, oedd cael gwasanaethu yno fel Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ranbarth Canol De Cymru rhwng 1999 a 2007 ac fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon.

Mae'n anodd felly deall bod cyn gyd-weithwyr iddo yn Llywodraeth Cymru wedi esgeuluso ef ynghyd â'r holl staff a phreswylwyr yn y cartrefi gofal ar draws Cymru wrth aros tan nawr i'w profi am Covid-19.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, "Treuliodd Dad rhan fwyaf o'i oes yn ymgyrchu am Senedd i Gymru ac uchafbwynt ei yrfa, os nad ei fywyd, oedd cael gwasanaethu yno," medd Rhys ab Owen

Roedd yn ergyd fawr derbyn y newyddion tua pythefnos yn ôl bod trigolion yn ei gartref wedi profi'n bositif am Covid-19 ar ôl cael eu derbyn i'r ysbyty. Ac roedd hi'n boen meddwl gwybod, er gwaetha'r risg nad oedd unrhyw brofion, ac yn wir, na fyddai unrhyw brofion nes cyhoeddiad Llywodraeth Cymru brynhawn Sadwrn yn cael eu gwneud yn y cartref er mai dyma rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.

Er bod llywodraethau San Steffan a'r Alban wedi cyflwyno profion mewn cartrefi gofal a bod y dystiolaeth wyddonol yn dweud y dylid gwneud hyn i reoli'r nifer o achosion o Covid-19, parhau i wrthsefyll y newid mewn polisi wnaeth Llywodraeth Cymru. Mae'n anghredadwy eu bod wedi aros tan ddechrau Mai, yn enwedig o gofio mai yng Nghymru mae'r ganran uchaf o bensiynwyr.

Yn ôl cyfaill i mi sy'n rhedeg pedwar cartref gofal yn Abertawe, oherwydd y diffyg profi, nid oes modd derbyn preswylwyr newydd. Mae hyn, dywedir, yn effeithio ar iechyd yr unigolion a'u teuluoedd, sicrwydd swydd i'r staff ac incwm y cartrefi.

Rwy'n falch y bydd y preswylwyr a'r staff mewn cartrefi yng Nghymru yn cael eu profi, ond bydd angen bod yn ofalus sut mae'r profion yn cael eu cynnal ar bobl gyda dementia.

Dylai Llywodraeth Cymru fod wedi gweithredu'n gynt i sicrhau profion mewn cartrefi gofal er lles staff a phreswylwyr, gan sicrhau triniaeth gyfartal ag unigolion ar draws Lloegr a'r Alban.

Ymateb y Llywodraeth

Ddydd Sadwrn dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Rydym yn dysgu mwy am y coronafeirws bob dydd - mae'r dystiolaeth yn newid ac yn datblygu drwy'r adeg ac rydym yn ei hadolygu'n rheolaidd.

"Ar hyn o bryd, nid yw'r dystiolaeth yn awgrymu bod angen profi pobl yn gyffredinol os nad oes ganddynt symptomau.

"Ond mewn cartrefi gofal, lle bydd gan rai bobl symptomau'r coronafeirws, ond nid eraill, mae pwrpas profi pawb, gan gynnwys y rhai heb symptomau - byddwn yn gwneud hyn er mwyn helpu i reoli achosion sy'n codi."

'A fydd e'n fy adnabod?'

Rwyf wedi dweud sawl gwaith dros yr wythnosau diwethaf pa mor lwcus ydym ni o dechnoleg. Dwi wedi cynnal achosion llys o'm cartref, darlledu oedfaon yn fyw ar Facebook, cymryd rhan mewn cyfarfodydd a chwisiau ar Zoom ac esgus bod mewn sawl tafarn rhithwir ar Whataspp. Er hyn, nid yw'r dechnoleg yn hygyrch i bawb.

Ffynhonnell y llun, Rhys ab Owen

Disgrifiad o'r llun, Owen John Thomas, Sian Wyn Thomas, Manon a Rhys

Yn anffodus, nid yw Dad yn gallu defnyddio'r cyfryngau rwy'n eu defnyddio gyda gweddill y teulu - nid yw'n gallu sgwrsio dros y ffôn neu'r we.

Pwy a ŵyr pryd y cawn ni ei weld ef nesaf. Mae nifer o gwestiynau yn fy mhoeni bob dydd: Sut fydd ei iechyd? Sut fydd e'n edrych? A fydd e'n fy adnabod?

Rydw i a fy ngwraig yn disgwyl ein babi cyntaf yn yr hydref - y 3ydd o Hydref os yw'r sgan yn gywir, sef diwrnod pen-blwydd Dad. Mae'r beichiogrwydd yn dod â'i bryderon ei hun, ond rwy'n gobeithio'n fawr y caf i fynd â'r babi newydd i gwrdd â'i Dad-cu.