'Cannoedd o garcharorion Cymru gyda Covid-19,' medd adroddiad

Mae un carcharor wedi marw ac mae bron i 500 yng Nghymru naill ai wedi cael coronafeirws, neu'n cael eu hamau o fod wedi cael yr haint - gyda chwech angen triniaeth ysbyty, yn 么l adroddiad swyddogol.

Mae dadansoddiad o'r ffigyrau - sy'n edrych ar Gymru a Lloegr, gafodd ei gomisiynu gan bennaeth y gwasanaeth carchardai - wedi canfod bod chwarter yr holl achosion sydd wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru.

Mae hynny er mai dim ond 6% o boblogaeth y carchardai oedd yn cael eu cadw yng Nghymru ddiwedd mis Mawrth.

Mae adroddiad ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi'i gynnal gan Dr Eamonn O'Moore, arweinydd cenedlaethol dros iechyd a chyfiawnder yn Iechyd Cyhoeddus Lloegr, ac mae'n cynnwys y ffigyrau hyd at 24 Ebrill.

Dywed yr adroddiad bod gan Gymru:

  • 398 o achosion tebygol (22% o'r cyfanswm sydd wedi'u nodi ar draws carchardai yng Nghymru a Lloegr);
  • 77 o achosion wedi'u cadarnhau (25% o'r cyfanswm);
  • Chwech yn yr ysbyty (17% o'r cyfanswm);
  • Un farwolaeth (allan o gyfanswm o 15 marwolaeth).

'Risg yn parhau'

Daw Dr O'Moore i'r casgliad bod y mesurau gafodd eu cyflwyno mewn carchardai wedi osgoi lledaeniad "ffrwydrol" o Covid-19 a bod y sefyllfa'n cael ei rheoli'n effeithiol.

Mae carchardai wedi cyflwyno meusrau newydd yn cynnwys cynyddu pellter rhwng carcharorion a sicrhau bod newydd-ddyfodiaid yn cael eu cadw ar wah芒n am y 14 diwrnod cyntaf.

"Yn absenoldeb brechlyn neu driniaeth effeithiol, bydd y risg o achosion mawr yn y carchar yn parhau," meddai Dr O'Moore.

"Efallai y bydd y risgiau hyn yn cynyddu yn ddiweddarach yn y flwyddyn oherwydd llacio cyfyngiadau cymdeithasol ehangach, a rhywfaint o ddychwelyd i weithgareddau arferol yr heddlu a'r llys."

Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod bod mynediad i brofion ar gyfer carcharorion wedi bod yn gyfyngedig ac yn amrywiol, felly nid yw canlyniadau'r profion yn cynrychioli "gwir faich yr haint yn y system garchardai".