Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
System wahanol Betsi Cadwaladr wedi achosi 'gwall' ffigyrau
Fe fethodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ag adrodd y nifer dyddiol o farwolaethau coronafeirws am ei fod yn defnyddio system adrodd achosion gwahanol i weddill y Gwansanaeth Iechyd, yn 么l prif swyddog meddygol Cymru.
Cafodd ymchwiliad ei gynnal wedi iddi ddod i'r amlwg nad oedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi adrodd eu ffigyrau dyddiol am fis cyfan.
Wrth siarad ar 91热爆 Radio Wales ddydd Llun, dywedodd Frank Atherton bod Betsi Cadwaladr wedi "penderfynu peidio defnyddio'r system [genedlaethol]" ac mai dyna oedd achos y "gwall yn y broses".
Dywedodd Dr Atherton fod y camgymeriad wedi ei gywiro bellach, a bod y bwrdd iechyd wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru y bydd yn darparu ffigyrau'n ddyddiol o hyn allan.
Anghysondeb cofnodi
Ar 24 Ebrill fe gofnodwyd 110 o farwolaethau coronafeirws yng Nghymru yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond roedd y rhan helaeth ohonynt - 84 marwolaeth yn ardal Betsi Cadwaladr - yn rhai oedd yn dyddio'n 么l dros gyfnod o fis i 20 Mawrth.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mai "problemau sydd wedi eu canfod yn ein system adrodd" oedd y rheswm dros gynnydd sylweddol yn nifer y marwolaethau yn yr ardal yn gysylltiedig 芒 Covid-19.
Ar y pryd dywedodd llefarydd bod diweddariad 24 Ebrill "yn cynnwys croniad o achosion ble mae claf wedi marw ac wedi cael prawf positif am Covid-19".
Ychwanegodd: "Mae'r holl ddata ar achosion Covid-19 a marwolaethau wedi ei gasglu'n gywir ac mae'r broblem yn ymwneud 芒'r modd mae'r data yn cael ei rannu."
- CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
- AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
- IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
- DYSGU: Sut i gadw'r plant yn brysur gartref
Wrth esbonio'r sefyllfa fore Llun, dywedodd Dr Atherton bod Betsi Cadwaladr wedi defnyddio ei system ei hun i gofnodi marwolaethau.
"Dyna pam bod gwall yn y broses sydd bellach wedi ei gywiro," meddai.
"Mae Betsi Cadwaladr wedi ein sicrhau y byddant yn adrodd y ffigyrau bob dydd.
"Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru'n cadw ar draws y system i sicrhau nad oes unrhyw broblemau mewn mannau eraill."
Ychwanegodd bod y ffigyrau cywir yn "hanfodol" er mwyn monitro'r haint, a bod Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn llunio "adroddiad llawn ar beth sydd wedi digwydd...".
Mewn cyfweliad ddydd Sul, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bod angen i bobl "wybod bod y cofnod o farwolaethau yn gwbl ddibynadwy".
Mewn cynhadledd ddydd Llun, ychwanegodd Mr Drakeford ei fod yn "disgwyl [i'r sefyllfa] gael ei gywiro".
Dywedodd hefyd nad yw ffigyrau achosion Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cael eu cofnodi mor fanwl o fewn y bwrdd iechyd oherwydd "pan mae'r ffigyrau'n isel, mae perygl o dorri cyfrinachedd cleifion".
Er hynny, dywedodd y dylai niferoedd marwolaethau gael eu cynnwys, ac "os nad yw hynny wedi bod yn digwydd, yna dwi'n disgwyl i'r adroddiad yma fynd i'r afael 芒 hynny".
Galw am gyhoeddi adroddiad
Mae'r gwrthbleidiau yng Nghymru wedi galw am gyhoeddi'r adroddiad wnaeth ymchwilio i'r sefyllfa.
Dywedodd yr AC Ceidwadol Mark Isherwood bod gwall yn "esgus syml iawn", gan alw am ryddhau'r adroddiad "er mwyn adeiladu hyder".
Cwestiynodd aelod Plaid Cymru, Sian Gwenllian, pam bod y bwrdd iechyd wedi bod yn defnyddio system wahanol o gwbl.
"A pham ei bod hi wedi cymryd mis i Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru sylwi bod rhywbeth o'i le?" gofynnodd.