Pobi a chwisiau yn lle penio a chicio i Natasha Harding

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Mae Natasha Harding yn gobeithio fydd mwy'n dilyn p锚l-droed merched pan fydd chwaraeon byw yn ailddechrau
  • Awdur, Catrin Heledd
  • Swydd, Chwaraeon 91热爆 Cymru

Mae bywyd wedi newid cryn dipyn i Natasha Harding - ymosodwraig Cymru a chapten t卯m p锚l droed Reading, dros yr wythnosau diwethaf.

Y mis hwn roedd Cymru i fod i chwarae dwy g锚m ragbrofol allai fod wedi mynd 芒 nhw gam yn nes at rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau am y tro cyntaf yn eu hanes.

Yn lle hynny, mae Harding, fel y gweddill ohonom, wedi gorfod dygymod 芒'r canllawiau llym sy'n ein hannog i aros o fewn ein pedair wal oherwydd argyfwng coronafeirws.

I'r ymosodwraig 31 oed mae hynny'n cynnwys ymarfer 芒'r offer prin sydd ganddi, pobi o'r newydd a bod yn gwisfeistr.

"Fi 'di neud bara - fi 'di neud banana bread hefyd just i drio cadw'n brysur," meddai Harding mewn cyfweliad gyda 91热爆 Cymru.

Colli trefn i'r diwrnod

"Mae 'di bod yn anodd. Mae gen i un p锚l a dau g么n felly s'dim lot o kit gen i - fi'n meddwl bod mwy o git gyda'r bachgen rownd y gornel na fi!

"Ni ddim yn gw'bod pryd ma'r tymor yn mynd i ailddechrau felly mae'n anodd cael y mental motivation i gadw i fynd.

"Fi di siarad 'da merched Reading a Chymru a pawb yn teimlo yr un peth. Ma routine pob un ohonom ni wedi cael ei gymryd i ffwrdd."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Disgrifiad o'r llun, Chwaraeodd Natasha Harding ym muddugoliaeth Cymru dros Estonia yn Wrecsam ym mis Mawrth

Euro 2021 yn 2022

Un peth sydd yn sicr yn y cyfnod ansicr yma yw bod cystadleuaeth Euro 2021 y mae Natasha a'i chyfoedion yn dyheu i'w chyrraedd, wedi ei gohirio am flwyddyn.

Fe fydd y twrnament nawr yn cael ei gynnal yn Lloegr fis Gorffennaf 2022 ar 么l i Ewros y dynion a'r Gemau Olympaidd yn Tokyo gael eu symud i'r haf nesaf, rhywbeth y mae Natasha yn ei groesawu.

"Bydde cael tri twrnament yn yr un flwyddyn ddim yn neud lot o sens," ychwanegodd.

"Gyda'r sylw i gyd ar y ddau dwrnament arall, i fi ma 2022 yn neud lot o sens. Ond falle bod rhai o chwaraewyr Cymru yn poeni wedi dweud hynny, achos byddan nhw ddwy flynedd yn h欧n."

Gobaith am dorf enfawr

Mae Natasha hefyd yn gobeithio y bydd 'na fwy o werthfawrogiad eto i'w champ, pan fydd chwaraeon byw yn ailddechrau yn y dyfodol.

"Pan o'dd hyn 'di digwydd i ddechrau - y pythefnos cynta' yn isolation - o'dd p锚l-droed Awstralia yn dal i fynd ac o'n i'n gwylio hwnna," meddai.

"Fi'n credu y bydd pawb yn gwerthfawrogi unrhyw fath o chwaraeon, a gobeithio bydd p锚l-droed merched lan 'na hefyd a phan fyddwn ni n 么l yn chwarae gemau cartre' bydd torf enfawr yna i wylio."

Yn y cyfamser canolbwyntio ar fwynhau y pethau bychain y mae'n rhaid i'r ferch sydd wedi ennill 79 o gapiau dros ei gwlad.

"Ers i hyn ddigwydd, fi'n gwerthfawrogi amser teulu a ffrindiau fi nawr," dywedodd.

"Yn y pythefnos cynta' ges i chwe cwis ar Zoom- odd e'n lot. Mewn un cwis o'dd 22 ohonom ni - carnage."

Rhywbeth y gall nifer ohonom ni uniaethu ag e, mae'n si诺r.