Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwersi dyddiol i ddisgyblion Cymru gyda Bitesize
Gydag o leiaf dair wythnos arall o ddysgu adref ar y gorwel i rieni, mae 91热爆 Cymru yn lansio arlwy addysg newydd ar gyfer plant ysgol 3-14 oed.
O heddiw, bydd gwersi i ddisgyblion yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi ar wasanaeth newydd Gwersi Dyddiol Bitesize. Bydd y set gyntaf o wersi yn canolbwyntio ar y tri phwnc craidd - Saesneg, Cymraeg a Mathemateg ar gyfer dysgwyr Cynradd ac Uwchradd.
Y bwriad hefyd yw creu deunydd i helpu rhieni di-gymraeg gydag addysg eu plant, yn cynnwys fideos, gweithgareddau, gemau a darnau wedi animeiddio.
Gwersi o bell
Wrth baratoi gwersi o bell i'w disgyblion ar gyfer tair wythnos arall, mae athrawon sy'n arbenigo mewn dysgu digidol yn croesawu'r adnoddau newydd: "Mae ysgolion ac athrawon yn gweithio'n ddiwyd ar hyn o bryd yn darparu cyfleoedd a chreu adnoddau dysgu o bell i'w disgyblion," medd Julie Fletcher, Cydlynydd Digidol Ysgol y Strade, Llanelli.
"Mae adnoddau amlgyfrwng, fel animeiddiadau a gemau mae'r 91热爆 wedi addo cynnig yn gofyn am sgiliau arbenigol i greu. Bydd disgyblion yn ymateb yn bositif i gynnwys o'r math."
Ehangu'r gwasanaeth
Mae adran addysg 91热爆 Cymru yn addo y bydd y gronfa o gynnwys addysgol fydd ar gael yn tyfu wrth i fwy a mwy o wersi gael eu hychwanegu'n ddyddiol, a bydd cynnwys sy'n benodol i Gymru hefyd ar gael ar 91热爆 iPlayer.
"Bydd ein gwasanaeth addysg newydd yn cefnogi disgyblion a rhieni i barhau 芒'u dysgu yn ystod yr 14 wythnos nesaf," medd Nia M Davies, Pennaeth Cynyrchiadau Addysg 91热爆 Cymru,
Bydd dysgwyr yng Nghymru hefyd yn gallu elwa o gynnwys Bitesize Dyddiol. Bydd y gwersi hyn yn cynnwys clipiau byrion gan athrawon yn egluro cysyniadau addysgol allweddol, darnau animeiddio, a chynnwys gan bartneriaid addysgol.
"Yn ystod yr wythnos gyntaf, byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar roi cymorth mewn Mathemateg, Saesneg a Chymraeg fel pynciau craidd," medd Nia M Davies.
"Wrth i'r gwasanaeth dyfu'n sylweddol o un wythnos i'r llall, byddwn yn cyflwyno gwersi newydd ar draws y cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg."
Ychwanegodd: "Bydd rhai o'n gwersi yn cynnig cymorth i rieni nad ydynt yn siarad Cymraeg a'u plant i helpu gyda pharhad eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg ac i hwyluso'r broses o drawsnewid yn 么l i fywyd ysgol.
"Ry'n ni'n falch iawn o allu cefnogi plant a rhieni yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn."
14 wythnos
Fe fydd y gwasanaeth sydd yn dechrau ddydd Llun yn para am 14 o wythnosau, ac yn 么l Nia M Davies mae hi wedi bod "yn glamp o dasg ond yn her sydd wedi bod yn werth chweil."
Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ar 91热爆 Radio Cymru fore dydd Llun, ychwanegodd:
"Da ni yn cefnogi disgyblion o'r cyfnod sylfaen reit i fyny at flwyddyn 10.
"Bydd gwersi dyddiol ar ein gwefan Bitesize ni, gan ddechrau eu cyhoeddi nhw o 9.00 y bore ma, ac yn ogystal 芒'r pynciau craidd yr wythnos hon a'r wythnos nesaf ymlaen, fe fydd yna wersi ychwanegol - fe fydd hanes a daearyddiaeth yn cael eu hychwanegu a'r gwasanaeth yn cynyddu wrth i ni fynd o un wythnos i'r llall.
"Bydd cynnwys yn ymddangos ar y 91热爆 iPlayer hefyd yn Gymraeg... ac un o'r pethe ni ishe cefnogi yw bod lot o rieni di-gymraeg yn stryglo ar hyn o bryd hefo cefnogi eu plant nhw sydd yn mynychu addysg Gymraeg - felly bydd ganddo ni lot o nodiadau i rieni dwyieithog o gwmpas ein cynnwys cynradd ni ar y wefan."
Yn 么l Julie Fletcher o Ysgol y Strade mae cefnogi rhieni di-gymraeg yn bwysig iawn i ysgolion cyfrwng Cymraeg:
"Rwy'n siwr bydd diffyg hyder naturiol gan y rieni yma at addysgu ei blentyn adref mewn iaith anghyfarwydd," meddai.
"Mae pob adnodd digidol Cymraeg newydd, sy'n ychwanegol i beth mae ysgolion yn barod yn cynnig, sydd ar-lein eisoes neu ar lwyfan genedlaethol Hwb yn beth da i fod yn falch ohono."