Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
41 yn rhagor wedi marw o Covid-19 yng Nghymru
Mae 41 yn rhagor o bobl wedi marw yng Nghymru ar 么l cael cadarnhad eu bod wedi'u heintio a Covid-19, yn 么l ffigyrau swyddogol Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r ffigwr diweddaraf yn golygu bod 575 o bobl wedi marw tra'n dioddef o'r feirws yma erbyn hyn.
334 o achosion newydd sydd wedi eu cyhoeddi gan ddod 芒'r cyfanswm i 7,270. Ond mewn gwirionedd mae'n debyg bod y ffigwr yn uwch gan nad yw pawb sydd 芒 symptomau o'r feirws yn cael eu profi.
15,464 o farwolaethau sydd wedi bod ar draws Prydain hyd yn hyn.
- LLIF BYW: Y newyddion diweddaraf ar 19 Ebrill
- CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
- AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
- IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
- DYSGU: Sut i gadw'r plant yn brysur gartref
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dechrau cyhoeddi ym mhle mae'r marwolaethau wedi digwydd yng Nghymru.
Mae'r nifer uchaf o farwolaethau wedi bod ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. 195 o bobl sydd wedi marw o'r haint yno.
Ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod nifer y marwolaethau ar draws y wlad "yn uwch."
Y rheswm maen nhw'n ei roi am y gwahaniaeth yw'r ffaith bod y data ond yn cynnwys cleifion sydd wedi marw yn yr ysbyty a rhai cartrefi gofal lle mae'r profion wedi cael eu cynnal am y feirws.
Beth am weddill y byrddau iechyd?
- 137 o bobl sydd wedi marw gyda'r haint o ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro
- 136 o ardal Cwm Taf Morgannwg
- 93 o ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe
Am fod y ffigyrau marwolaethau ym Mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, Hywel Dda a Phowys yn fach dyw'r rhain ddim wedi cael eu cyhoeddi er mwyn gwarchod preifatrwydd y meirw.
Ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud nad yw hyn yn effeithio ar y niferoedd sydd wedi marw.