Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Yr actores Ruth Lloyd
Yr actores Ruth Lloyd sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar 么l iddi gael ei henwebu gan Sian Beca yr wythnos diwethaf.
Ruth oedd yn actio mam Sian yng nghyfres Rownd a Rownd am flynyddoedd. Mae hi hefyd yn gyfarwydd i wylwyr S4C am ymddangos mewn nifer o gyfresi eraill dros y blynyddoedd, fel Pen Talar a Dim ond y Gwir.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Fy atgof cyntaf yw o gael picnic ar lan yr afon gyda fy nheulu yn ystod y cynhaeaf. Cefais fy magu ar fferm mynydd yn y canolbarth, ger Llanwrtyd. Ar yr adeg honno roedd pob haf yn hir, roedd wastad llond basged o ddanteithion homemade sawrus a melys mewn basged gyda fy mam yn cyrraedd y cae gwair. Byddai'n nhad yn neidio o'r hen dractor yn arogli o chwys a gwair yng ngwres y prynhawn a fi a'm mrawd yn oefad yn yr afon Irfon gerllaw.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Roeddwn yn ffansio Woody o'r Bay City Rollers wrth gwrs.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Bwres i Andrea Jones dros ei phen gyda fy Brownie Annual pan oeddwn yn 7 oed. Es i byth n么l i Brownies ar 么l hwnna rhag ofn i Brown Owl gweud wrth fy Mam. Doedd fawr o ots 'da fi chwaith am beidio mynd i Brownies achos doeddwn i ddim eisiau gweud 'Serve the Queen' yn f'addewid felly doedd e ddim yn golled mawr. Ond dwi dal yn crinjo wrth feddwl am glatsio Andrea. Buon ni byth yn ffrindiau er i ni fynd i'r un ysgol uwchradd.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Ddoe pan wyliais i'r clip fideo o Awyrlu'r Eidal yn hedfan i greu enfys coch, gwyn a gwyrdd i ddathlu dewrder pobl eu gwlad a chodi calon pobl y byd yn ystod y cyfnod ofnadwy yma i bawb.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes - rhegi'n Saesneg lot.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Rhodfa Abergwesyn - yr heol gul o Lanwrtyd i Dregaron. Mae e'n gwm anghysbell ond does dim unman yn debyg, o hen fferm Pentwyn i Lanerch-yr-yrfa hyd at Devil's Staircase. Lle da am bicnic ar brynhawn dydd Sul 'da'n nheulu eto, dyna lle roeddem yn hoffi mynd am sbin pan oeddwn yn fach a dwi'n caru mynd 芒'm mhlant i yna nawr. Lle braf i fynd ar y beic mynydd.
O archif Ateb y Galw:
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Anodd iawn i ddewis, mae 'na gymaint wedi bod a chymaint o ffrindiau a theulu da i'w rhannu nhw. Ond os oes rhaid dewis un af i nol i ddyddiau coleg.
Pan oeddwn yn y coleg aethom lawr i dafarn y Farmer's Arms yn Llangyndeyrn ger Caerfyrddin, daeth y gitars mas a fy'na buom yn griw o ffrindiau a phobl leol yn yfed a chanu tan oriau man y bore. Ond yfodd fy ffrind Sian gormod o cider and black a chwydodd yn binc. Am unwaith roeddwn yn gall ac yn gallu gofalu amdani.
Cerddon ni n么l lan y pitsh i Fancycapel lle roeddem yn byw ar y pryd ac roedd y noson yn oer a chlir a'r s锚r yn ddisglair. Rhedodd cadno o'n blaenau a be' dwi'n cofio mwya' oedd y chwerthin, y canu a mwy o chwerthin a joio byw.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Gwirion, siaradus, gweithgar.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Fy hoff lyfr yw Perfume gan Patrick Suskind. Mae pob tudalen yn arogli - odi 'na'n 'neud sens?
Fy hoff lyfr Cymraeg yw Martha, Jac a Sianco gan Caryl Lewis achos mae e mor wir - perffeithrwydd ar bapur. Llyfr sydd yn portreadu cenedl o bobl yng ngefn gwlad Cymru i'r dim.
Fy hoff ffilm yw The Field gyda Richard Harris a John Hurt am yr un rheswm, mae'n dangos cefn gwlad Iwerddon gyda'r un gwirionedd.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Alla i gael dwy, plis, achos bo' nhw mor wahanol?
Irena Sendlerowa, gweithwraig gymdeithasol a nyrs a weithiodd i'r mudiad tanddaearol yng Ngwlad Pwyl yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Achubodd 2,500 o blant o'r Ghetto yn Warsaw rhag llofruddiaeth a rhoiodd hunaniaeth newydd i bob un cyn trefnu gofal a maeth iddynt mewn cartrefi newydd.
Er iddi gael ei harteithio gan y Gestapo yn 1943, gwrthododd yngan gair am y plant. Cadwodd ddogfennau gydag eu henwau newydd a'u henwau gwreiddiol wedi'u claddu dan goeden ac ar 么l y rhyfel llwyddodd i aduno nifer o blant gyda'u teuluoedd. Dwi jyst eisiau gwrando arni'n adrodd ei hanesion.
Ac wrth gwrs Amy Winehouse. Waw am lais, am gymeriad. Mae merched blwyddyn 13 Drama yn yr ysgol lle dwi'n dysgu ar hyn o bryd newydd ddyfeisio perfformiad anhygoel am fywyd a chwymp yr anfarwol Amy Winehouse. Cymeriad cymhleth, dwys a hynod diddorol.
Beth yw dy hoff g芒n?
Elvis Presley, Can't Help Falling in Love With You.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Scallops. Cinio Nadolig 芒'r holl trimmings. Treiffl hen ffasiwn ond gyda sieri yn y gwaelod gyda sbwnj a jam a dim ffrwyth na jeli chwaith.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Pan oeddwn yn y coleg ces i'n ddewis i deithio gyda'r Archesgob Desmond Tutu ar ei daith Stop the Clock i atal marwolaeth plant yn Ne Affrica. Fy nyletswydd i oedd i ddarllen y gwedd茂au ar ei ran. Profiad anhygoel. Dwi dal yn gorfod pinsio'n hunan, roeddwn mor lwcus. Roedd e'n ddyn hyfryd, hynod addfwyn, caredig a direidus. Roedd digonedd o chwerthin heintus yn ei gwmni arbennig.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cael te prynhawn gyda fy nheulu - mae gen i dri o blant, Phoebe, Ben a Lili - bydde 'na'n berffaith.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Sara Cox.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Gareth 'Gaz Top' Jones