Bywyd ar 'lockdown' yn Fietnam

Ffynhonnell y llun, Cadi Mai

Mae wedi bod yn freuddwyd gan Gymraes o Ben Ll欧n i fynd n么l i Fietnam i fyw a dysgu ers syrthio mewn cariad gyda'r brifddinas Hanoi tra ar wyliau yno gyda'i chariad. Bedair blynedd yn ddiweddarach llwyddodd i fynd n么l, ond yn anffodus lledaenodd haint Covid-19 i'r wlad yr un pryd.

Wythnosau ar 么l iddi gyrraedd n么l i Fietnam fis Ionawr mae Cadi Mai o Lanbedrog yn sownd yn ei fflat oherwydd cyfyngiadau'r coronafeirws.

Mae hi'n byw a gweithio yn Hanoi fel athrawes Saesneg i blant rhwng 5 a 12 oed.

Mae wedi bod yn wyliadwrus iawn ers cyrraedd gan wisgo masg yn gyson, golchi ei dwylo a chario diheintydd efo hi i bob man.

Ffynhonnell y llun, Cadi Mai

Mae hefyd wedi bod wrth ei bodd yn dysgu am y bobl a'r diwylliant a thrio bwydydd newydd.

Ond ers 31 Mawrth, mae'r awdurdodau wedi cyflwyno lockdown sy'n golygu bod Cadi mwy neu lai yn gaeth i'r fflat mae hi'n ei rannu gyda merch o Ganada.

Ffynhonnell y llun, Cadi Mai

Disgrifiad o'r llun, Un o'r golygfeydd lliwgar ar y stryd cyn y 'lockdown'

"Mae wedi mynd yn fwy llym arnon ni yn ddiweddar. Gawson ni neges ryw bythefnos yn 么l yn dweud nad oedden ni'n cael gadael y fflat os nag ydy o'n fater brys," meddai Cadi.

Dydyn nhw ddim hyd yn oed yn cael mynd allan i wneud ymarfer corff ond maen nhw'n cael mynd i brynu bwyd neu feddygyniaeth.

Er hynny, mae eu landlord wedi gofyn iddyn nhw beidio 芒 gadael y fflat o gwbl felly maen nhw'n cael bwyd wedi ei ddanfon ar gefn motobeic i du allan y fflat.

Ffynhonnell y llun, Cadi Mai

Disgrifiad o'r llun, Bydd y n诺dls gafodd Cadi a'i chydletywraig gan ei landlord yn help i'w cadw i fynd am ychydig

"Mae'n rhaid i rywun jyst derbyn y sefyllfa a gobeithio, o wrando ar hynny, fod pethau'n mynd i wella yma mewn ychydig a fyddwn ni'n cael cario ymlaen efo'n bywydau mewn ychydig yma."

"Rydan i wedi bod mor ffodus fod y landlord wedi bod mor gl锚n efo ni," meddai.

"Nes i ddeffro'r diwrnod o'r blaen i neges gan y ddynas yn dweud bod 'na n诺dls yn aros amdanon ni tu allan i'r drws. Pan nes i agor y drws oedd 'na focs anferth efo 30 paced o n诺dls i'n cadw ni i fynd am y cyfnod yma.

"Maen nhw wedi bod mor gl锚n - mae'r caredigrwydd jyst yn cyffwrdd rhywun yma ar adeg fel hyn."

Mae ei landlord hefyd wedi cwtogi ei rhent dros y cyfnod yma a dweud wrthi am gysylltu os ydi hi angen unrhywbeth.

Ffynhonnell y llun, Cadi Mai

Disgrifiad o'r llun, Cadi a'i ffrindiau newydd o Dde Affrica, Dulyn a'r Unol Daleithiau yn mwynhau'r 'bia hoi' - diwylliant cwrw unigryw Fietnam - cyn y cyfyngiadau diweddaraf

Dysgu dros y we

Dydi Cadi ddim wedi cyfarfod y plant mae hi'n ei ddysgu wyneb-yn-wyneb eto am eu bod nhw ar eu gwyliau pan gyrhaeddodd hi ac r诺an adref oherwydd y coronafeirws.

Felly mae wedi bod yn eu dysgu o'i fflat ers tair wythnos.

"Dwi'n dysgu'r plant oddi ar fy ngwely! 'Dan ni'n rhoi'r gwersi drwy Zoom... mae'n gweithio'n champion.

"Mae'r plantos i gyd mor annwyl ac mae eu Saesneg nhw'n rhyfeddol."

Maen nhw'n dysgu mwy na Saesneg hefyd gan i Cadi roi gwers am Gymru iddyn nhw ar ddydd G诺yl Dewi!

Ffynhonnell y llun, Cadi Mai

Disgrifiad o'r llun, Dosbarth Cadi - neu 'Teacher Mai' - am y tro

Yn 么l Cadi, er bod "dim trefn" ar rai agweddau eraill yn y wlad, mae'r llywodraeth wedi bod yn effeithiol iawn yn delio gyda'r coronafeirws, gan "weithredu'n syth a rhoi mesurau call yn eu lle o ran cau ysgolion yn syth", meddai.

Os oes 'na achos posibl, maen nhw'n dod yno'n syth i ddiheintio'r stryd a gwneud yn si诺r bod y bobl yn hunan-ynysu.

Dim marwolaethau

"O'n i'n cyrraedd y ganolfan ryw bythefnos, dair yn 么l [cyn y lockdown] ac roedd 'na ddyn fel fysach chi'n ei weld mewn ffilm mewn siwt wen a rhywbeth am ei gefn o yn sprayio, yn disinffectio, yr adeilad," meddai Cadi.

"Mae'n anhygoel, does dim mo'r fath beth 芒 iechyd a diogelwch yn bodoli yma, a 10 munud yn ddiweddarach, oeddan ni'n cael mynd n么l fewn... ac roedd bob dim yn socian, y plygiau a bob dim!"

Mae ychydig o achosion o'r coronafeirws yn Hanoi meddai Cadi ond does yr un marwolaeth wedi bod yn y wlad o gwbl, sy'n anhygoel o ystyried bod Fietnam yn wlad o dros 97 miliwn. Mae'r wlad hefyd wedi anfon miloedd o fasgiau i wledydd eraill gan gynnwys Prydain.

Ffynhonnell y llun, Cadi Mai

Disgrifiad o'r llun, Un peth mae Cadi yn ei golli ydy'r bwyd stryd blasus, a rhad, roedd hi'n arfer byw arno, yn enwedig Bun Cha, powlen o beli porc a nwdls gyda llysiau i ginio am 66 ceiniog

Mae llawer o bobl eraill o dramor sydd yn y wlad wedi hedfan adref, a dyna argymhelliad llywodraeth y DU hefyd.

Er iddi ystyried gwneud hyn, penderfynodd Cadi aros, yn rhannol oherwydd yr ofn o ddal y feirws wrth deithio n么l mewn awyren.

Mae'n diolch am dechnoleg i allu cadw mewn cysylltiad gyda'i chariad, Geraint, n么l yng Nghymru oedd i fod i ddod i aros ati ddiwedd mis Ebrill. Mae'r llywodraeth wedi gwahardd pobl o dramor rhag dod i'r wlad ar hyn o bryd.

Codi calon

Ffynhonnell y llun, Cadi Mai

Disgrifiad o'r llun, Mae crosio a gwisgo dillad lliwgar yn helpu Cadi i ddygymod 芒'r sefyllfa

Ond mae'n ffeindio ffyrdd o gadw ei hysbryd drwy'r cyfnod.

"Un o'r pethau sy'n fy nghadw i'n gall trwy'r cyfnod yma ydi crosio. Dwi'n gweithio ar flanced ac mae hynny'n mynd 芒 fi i ryw fyd bach arall am ychydig funudau bob diwrnod. Mae crosio'n gysur mawr.

"Dwi hefyd wedi bod yn g'neud sesiynau soundbath ar y we sy'n fy ngalluogi i gysgu'n well dros y cyfnod yma.

"Dwi hefyd yn trio gwisgo dillad lliwgar yma gan bod hynny wastad yn codi calon."

Cyngor da i bob un ohonon ni!