Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Covid-19: Sut mae gwasanaethau iechyd eraill yn ymdopi?
Mae gwasanaethau iechyd sydd yn darparu gofal ar gyfer cyflyrau sydd ddim yn gysylltiedig 芒'r argyfwng coronafeirws yn wynebu amseroedd "heriol", yn 么l meddygon.
Mae rheolau newydd wedi eu cyflwyno er mwyn ceisio lleihau lledaeniad yr haint ac i leddfu'r pwysau ar adnoddau'r gwasanaeth iechyd.
Ond mae rhai gwasanaethau arbenigol, gan gynnwys iechyd rhyw ac optometreg, yn aml yn ddibynnol ar roi triniaethau i bobl ar 么l eu cyfarfod wyneb yn wyneb.
Mae Dr Olwen Williams yn gweithio ym maes iechyd rhywiol ac yn dweud bod y feirws wedi bod yn "heriol a diddorol".
Dyw hi ddim yn bosib erbyn hyn i glaf fynd i glinig galw mewn. Mae'r cyfan yn cael ei wneud ar y ff么n.
- LLIF BYW: Y newyddion diweddaraf ar 5 Ebrill
- CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
- AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
- IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
- DYSGU: Sut i gadw'r plant yn brysur gartref
"Yr hyn sy'n digwydd yw bod yna asesiad yn digwydd yngl欧n 芒 phwy ddylech chi siarad ag o, boed hynny yn nyrs neu yn ddoctor ac maen nhw'n gwneud asesiad llawn," medd Dr Williams, sy'n gyn-lywydd Cymdeithas Iechyd Rhywiol a HIV Prydain.
"'Da ni'n ceisio ei gwneud hi mor rhwydd 芒 phosib i bobl, ac os oes rhywun yn dweud: 'Mae gen i dyfiant mewn man preifat', sut allwch chi asesu'n iawn heb ofyn iddyn nhw ddod mewn?
"Os yw'n arwyddocaol bydd gofyn i'r claf fynychu clinig trwy apwyntiad."
Ychwanegodd Dr Olwen Williams bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn dal i weld cleifion sydd ag HIV ac yn cynnig meddyginiaeth i'r rhai allai fod wedi cael HIV hefyd.
Er nad yw pobl yn gallu teithio mor rhwydd, dywedodd Dr Williams bod "pobl yn dal i gyfarfod 芒 phobl eraill" ond bod hyn yn "beryglus".
Yn y cyfamser, mae hawl gan bobl erthylu yn y cartref yn ystod y pandemig.
Mae rhai llefydd optometreg, sy'n cynnig triniaethau llygaid, wedi aros ar agor ar 么l cael nawdd ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Yn 么l Sali Davies, prif weithredwraig Optometreg Cymru, nid yw'r sefyllfa yr un fath ar draws Prydain.
"Mae llywodraeth Cymru yn disgwyl i 50% o lefydd gau a bydd yr hanner arall ar agor ar gyfer argyfyngau," meddai.
Ond does dim apwyntiadau arferol na thriniaeth lawfeddygol er enghraifft ar gyfer cataract.
Pryder mynd yn ddall
Gallai hyn olygu y bydd rhai sydd 芒 chyflyrau sydd yn gallu effeithio ar eu llygaid "fynd yn ddall adref".
Yn 么l Ms Davis gallai argyfyngau gynnwys pobl sy'n dioddef llwch neu rywbeth yn sownd yn eu llygaid, yn colli golwg yn ddirybudd, neu'n torri neu golli eu sbectol.
Mae pob cangen yn trin pedwar argyfwng bob dydd fel arfer.
Dywedodd hefyd bod pryder yngl欧n 芒'r diffyg offer diogelu, PPE. Mae deintyddion hefyd yn poeni am y sefyllfa.
Cafodd canllawiau newydd yngl欧n 芒 PPE eu cyhoeddi ddydd Iau.
Mae'r gymdeithas Brydeinig sydd yn trin traed pobl, The British Chiropody and Podiatry Association, yn dweud bod gan weithwyr yr yswiriant i wneud hyn oni bai fod y claf neu rywun sy'n byw yn yr un t欧 芒 nhw yn dangos symptomau o Covid-19.
Ond ychwanegodd y llefarydd bod yna feini prawf uchel er mwyn cyfiawnhau rhoi triniaeth i berson yn y sefyllfa bresennol.
Dyw ffisiotherapyddion ddim yn trin cleifion wyneb yn wyneb oni bai bod hyn yn gwbl angenrheidiol.
Mae Cymdeithas Brydeinig Cwnsela a Seicolegwyr yn cynghori aelodau i beidio cyfarfod pobl hefyd pan fo hynny yn bosib.
Canllawiau'r gymdeithas yw y dylid ystyried cwnsela dros y ff么n neu dros y we pan fo'n bosib.