Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Coronafeirws: Cyhoeddi cronfa 拢7m i'r celfyddydau
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi eu bwriad i agor 'cronfa ddycnwch' er mwyn diogelu celfyddydau Cymru rhag effaith argyfwng coronafeirws.
Bydd y gronfa werth 拢7m ac fe fydd yn cael ei sefydlu ar y cyd rhwng y cyngor a Llywodraeth Cymru, gyda'r cyngor yn rheoli'r gronfa.
Bydd yr arian ar gyfer unigolion a sefydliadau ac fe fydd y manylion llawn yn cael eu cyhoeddi ar 7 Ebrill.
'Lleddfu caledi'
Mewn datganiad, dywedodd cadeirydd y cyngor, Phil George: "Drwy gronfa ddycnwch y celfyddydau, bydd 拢7 miliwn ar gael i'r sefydliadau a'r unigolion hynny sydd eu hangen fwyaf.
"Datrys argyfwng ariannol a lleddfu caledi fydd ein tasg gyntaf.
"Rydym ni eisoes wedi llacio'r gofynion ariannu i sefydliadau ac unigolion sydd 芒'n grantiau, fel y gallant ymateb yn hyblyg i'r anawsterau newydd. Ond heddiw awn ni gam ymhellach.
"Bydd cronfa ddycnwch y celfyddydau yn pontio'r bwlch rhwng yr argyfwng presennol a'r dyfodol o weithgarwch creadigol newydd ar 么l coronafeirws. Ac mae'r dyfodol eisoes yn ysgogi dychymyg ein cymuned artistig."
'Pecynnau ariannol'
Dywedodd prif weithredwr y cyngor, Nick Capaldi: "Mae cronfa ddycnwch y celfyddydau yn ymuno 芒'r pecynnau ariannol a gyhoeddwyd yn barod gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain.
"Ein tasg yw gwneud cyfleoedd y gronfa'n glir a hawdd eu deall. Rydym ni'n gweithio ar frys i lunio'r manylion ymarferol. Rydym ni'n gwybod o'r gorau bod y sector yn awyddus i gael manylion pendant.
"Ond gobeithio y bydd pawb yn deall mai diwrnod neu ddau ychwanegol fydd yn sicrhau'r canlyniad gorau i bawb yn y pen draw. Felly ddydd Mawrth 7 Ebrill bydd yr holl fanylion ar gael."
- CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
- AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
- IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
- DYSGU: Sut i gadw'r plant yn brysur gartref