Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Ni allaf ofyn am le gwell i weithio, yn enwedig yng nghanol hyn...'
Gyda phrifysgolion ar gau oherwydd yr haint coronafeirws, mae Magi Tudur wedi gorfod gadael y brifddinas ar 么l dau dymor yn unig o'i blwyddyn gyntaf yn astudio meddygaeth.
Nawr mae hi'n cyfuno astudio ar-lein gyda gweithio mewn meddygfa ger ei chartref yn ardal Caernarfon yn ystod yr argyfwng iechyd. Yma mae hi'n sgwennu am y newidiadau sydyn i'w bywyd.
Teithiais adref gyda ffrind rhyw bythefnos yn 么l ar gyfer y Pasg, heb sylweddoli na fydda i'n dychwelyd i Gaerdydd. Roedd rhaid rhuthro yn 么l wythnos yn ddiweddarach i bacio fy holl stwff o neuadd breswyl Senghennydd, diwrnod cyn i Boris Johnson gyhoeddi lockdown.
Roedd yn deimlad annifyr iawn wrth orfod symud allan heb ffarwelio gyda fy ffrindiau. Nid dyma'r ffordd roeddwn eisiau gorffen fy mlwyddyn gyntaf.
Roedd un o fy ffrindiau ar y cwrs mewn penbleth yngl欧n 芒 theithio adref gan ei bod hi'n byw yn Zambia, ac y byddai'n rhy ddrud i deithio o Affrica yn 么l i Gaerdydd petai'r ysgol feddygol yn ail-agor. Ond erbyn hyn, mae'n eithaf clir na fydd y brifysgol yn ail-agor tan fis Medi beth bynnag.
Rydym yn gorfod dysgu ar-lein o hyn ymlaen, sy'n golygu gwylio darlithoedd ar-lein, recordio aseiniadau - er enghraifft cyflwyniad ar-lein, a defnyddio Skype i drafod mewn grwpiau.
Mae'n gweithio yn eithaf da hyd yn hyn, ond un peth pwysig rydym yn ei golli ydi'r profiad clinigol, gan nad oes modd gwneud hyn ar-lein! O fy nealltwriaeth i, bydd yn rhaid i ni ddal i fyny gyda'r profiad clinigol unwaith mae'r argyfwng drosodd.
Erbyn hyn, rwyf adref ers bron i bythefnos, yn dysgu ar-lein, ond hefyd yn gweithio ym Meddygfa Waunfawr, ger Caernarfon. Dechreuais weithio yno yn ystod fy mlwyddyn gap cyn mynd i'r brifysgol, ac ar hyn o bryd, maen nhw'n sicr angen hynny o staff sydd ar gael.
Fy r么l yn y feddygfa yw paratoi meddyginiaethau i gleifion, cymryd galwadau ff么n, a bod yn y dderbynfa - ychydig o bob dim.
Bydd y doctoriaid yn fy ngalw i mewn weithiau os oes yna achos difyr, ac os yw'r claf yn fodlon, gan fy mod yn astudio meddygaeth.
Newidiadau yn y feddygfa
Mae'r feddygfa yn wahanol ers y tro dwythaf i mi weithio yno, am resymau amlwg, gyda mesuriadau newydd i osgoi lledaenu'r feirws. Un enghraifft yw ein bod yn rhoi meddyginiaethau'r cleifion iddynt drwy ffenestr y feddygfa fel nad ydynt yn dod i mewn i'r adeilad, a hefyd mae'n golygu eu bod yn sefyll yn yr awyr iach yn hytrach na thu mewn i'r feddygfa.
Hefyd, rydym yn treialu rhywbeth newydd o wythnos yma ymlaen - sef gwahanu ein staff fewn i ddau d卯m: un t卯m i weithio yn ein cangen yn Llanrug am bythefnos, ac un t卯m i weithio yn ein cangen yn Waunfawr, fel nad ydym yn cymysgu gormod gyda'n gilydd, h.y. os yw un safle yn cael yr afiechyd, mae'r safle arall dal yn medru gweithio.
- YN FYW: Y newyddion diweddaraf am yr haint
- CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
- AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
- IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Gan fy mod i yn byw gyda fy nheulu, ar 么l shifft yn y feddygfa, rwyf yn defnyddio drws cefn ein t欧 gan nad oes neb arall yn ei ddefnyddio, a hefyd rwy'n tynnu fy ngwisg gwaith yn y drws a neidio mewn i'r gawod cyn mynd o amgylch y t欧.
Rwyf hefyd defnyddio ystafell ymolchi wahanol i weddill fy nheulu.
Pawb yn helpu ei gilydd
Er y negatifrwydd sydd yn amgylchynu'r sefyllfa, mae gweithio ym Meddygfa Waunfawr yn brofiad anhygoel yn ystod yr argyfwng, ac mae'n gwneud fyny (i raddau) am y profiad clinigol rwyf yn ei golli yng Nghaerdydd.
Mae llawer o gynllunio wedi mynd ymlaen dros yr wythnos diwethaf yn paratoi ar gyfer y gwaethaf, ac mae ymateb a dealltwriaeth y cleifion yn wych ar y cyfan ac yn gwella wrth iddynt arfer.
Mae gennym d卯m cryf, a phawb yn helpu ei gilydd ac yn hynod weithgar, ac ni allaf ofyn am unrhyw le gwell i weithio, yn enwedig yng nghanol hyn.
Hefyd o ddiddordeb: