Dim sedd i Ffred a Meinir ar awyren achub o Periw

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu

Disgrifiad o'r llun, Roedd Ffred a Meinir Ffransis ar daith drwy dde America i dathlu eu penblwyddi yn 70

Mae teulu Meinir a Ffred Ffransis yn dweud nad yw'r ddau ymhlith y dinasyddion Prydeinig ym Mheriw sydd wedi cael sicrwydd y byddan nhw'n cael eu cludo adref.

Mae'r Swyddfa Dramor wedi cadarnhau eu bod wedi trefnu awyren i gludo dinasyddion adref.

Y gred yw bod tua 200 o ddinasyddion wedi cael gwybod bod sedd ganddyn nhw ar hediad fydd yn gadael Lima am 14:30 ddydd Mercher.

Ond yn 么l teulu'r ddau nid oedd modd iddyn nhw deithio o dref Cusco i Lima mewn pryd i ddal yr awyren.

'Dim blaenoriaeth i bobl s芒l a phobl oedrannus'

"Yn wahanol i be nath Raab ddweud ddoe, s'dim blaenoriaeth pennaf i bobl h欧n a s芒l ond actually jyst i bobl sy'n Lima achos dy'n nhw ddim wedi trefnu ffordd i gludo pobl i Lima," medd Gwenno Teifi, 33, un o ferched y p芒r.

Mae hi'n credu bod hyd at 1000 o ddinasyddion Prydain yn aros i gael eu hachub o Periw.

Er nad oes nifer uchel o achosion o coronafeirws ym Mheriw eto, fe gyhoeddodd yr Arlywydd stad o argyfwng ar Mawrth 15 gan atal hediadau bron ar unwaith.

"Nath un menyw sy'n s芒l yn Cusco dderbyn yr ebost, a pan nath hi ffonio nhw i checo sut odd hi fod cal i Lima odden nhw'n really flustered a natho nhw ddweud wrthi bod dim ffordd felly eu bod nhw'n rhoi ei sedd i rywun arall," meddai.

Mae dinasyddion o America a Chanada dal yn gaeth yn y wlad hefyd, er bod Israel, Ffrainc, Iran, Mecsico a'r Almaen wedi llwyddo trefnu hediadau brys i ddychwelyd eu dinasyddion nhw.

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Ffred a Meinir Ffransis wybod y byddai disgwyl iddyn nhw aros yn eu gwesty yn Periw am bythefnos

Mae'r Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab yn mynnu bod swyddogion yn gweithio yn ddi-baid i geisio helpu dinasyddion Prydeinig sy'n sownd dramor i ddychwelyd adre.

Mae'r Swyddfa Dramor wedi rhybuddio pob dinesydd o'r Deyrnas Gyfunol i ddychwelyd gynted ag sy'n bosibl wrth i ffiniau gwledydd gau a hediadau awyr gael eu hatal.

Mae'r Swyddfa hefyd wedi cael ei feirniadu am fethu a gwneud digon i helpu dinasyddion sydd wedi cael eu dal yn Awstralia a Seland Newydd hefyd.

Problem Ffred a Meinir Ffransis yw eu bod nhw nhref Cusco, sydd yn daith o dros ugain awr ar fws i'r brifddinas Lima.

Ar hyn o bryd, does dim modd iddyn nhw gyrraedd Lima, yr unig le mae hediadau'n cael gadael y wlad.

Yn 么l Gwenno Teifi, er nad oes lle i'r ddau ar yr awyren fydd yn gadael ddydd Mercher, mae 'na obaith y bydd y ddau ar hediad arall ddydd Sul.

Ond, does dim manylion eto ynglyn a sut y gallai Mr a Mrs Ffransis gyrraedd Lima.

Mae Cymru Fyw wedi gweld llythyr dderbyniodd y ddau gan y Swyddfa Dramor sy'n dweud: "Ry'n ni'n cydnabod y byddwch yn teimlo yn rhwystredig a phryderus am eich sefyllfa ac rydym eisiau eich sicrhau ein bod yn parhau i wneud popeth posib i gludo dinasyddion Prydain sy'n dymuno gadael Periw nol i Brydain."

Wrth siarad o'i westy brynhawn Mawrth, dywedodd Mr Ffransis wrth 91热爆 Cymru Fyw: "Da ni gyd rhyw 280 o filltiroedd i ffwrdd o'r brifddinas, o ble fydd yr hediadau.

"Da ni 11,000 o droedfeddi i fyny yn yr awyr - mae anadlu ychydig yn anos fan hyn, ac da ni wedi cael y cyhoeddiad y bydd 'na awyrennau'n mynd o Lima."

Mae e'n dweud taw dim ond aros all e a Meinir wneud i gael gwybod os a pryd y cawn nhw ddychwelyd adref.