Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Syniadau crefft i'w gwneud yn y tÅ·
Ydych chi'n gweithio o adre' ac yn trio addysgu'r plant yr un pryd? Wedi rhedeg allan o syniadau creadigol yn barod? Neu am lenwi'ch penwythnosau neu wyliau Pasg gyda gweithgareddau difyr a diddorol o gwmpas y tÅ·?
Dyma ychydig o ysbrydoliaeth gan yr artist Elin Vaughan Crowley am weithgareddau i'r plant (ac oedolion) eu gwneud yn y tŷ. Mae modd eu haddasu yn ôl oedran y plant ac yn ddibynnol ar ba adnoddau sydd gennych o amgylch y lle.
Llyfr braslunio
Mae'r fideo yma yn dangos sut mae mynd ati i greu braslyfr i'w lenwi. Dyma rai syniadau ar gyfer y clawr:
Beth am fynd i'r ardd i gasglu dail, plu, blodau neu unrhyw beth naturiol sydd â siâp diddorol.
Gydag inc, brwsh a dŵr, astudiwch a brasluniwch nhw. Yna llenwch un darn papur A4 gydag un eitem.
Mi fydd hyn yn rhoi delwedd trawiadol i glawr eich llyfr, ac ar yr un pryd yn gyfle i astudio dail a dod i adnabod coed trwy siâp y ddeilen.
Os ydych wedi creu cyfres o luniau ac eisiau syniadau ychwanegol, torrwch pob braslun yn ddarnau sgwâr, a chreu effaith teils gyda manylion y dail.
Barddoniaeth abstract
Llenwch un dudalen A4 yn y llyfr braslunio gyda meddyliau, teimladau neu stori am y cyfnod yr ydym ynddo.
Gallwch ddigrifio un diwrnod yn yr ysgol yn ystod yr wythnosau diwethaf, disgrifio eich pryderon neu deimladau, neu rannu syniadau am beth hoffech chi wneud yn ystod y cyfnod o fod adref.
Neu os ydych yn awyddus i drafod rhywbeth hollol wahanol, beth am ddisgrifio eich hoff wyliau, eich hoff Nadolig, neu ddigwyddiad teuluol. Gallwch sgwennu hyn â llaw neu ar y cyfrifiadur, a dewis hoff font.
Yna, dewiswch eiriau sy'n sefyll allan, yn eiriau da yn eich barn chi. Neu dewiswch ddau neu dri gair sy'n llifo'n dda gyda'i gilydd.
Peidiwch gorfeddwl ar y pwynt hwn a thrio cyfuno geiriau sy'n gwneud synnwyr gyda'i gilydd. Rhowch gylch o amgylch y geiriau hyn (dim mwy na 10 cylch yn ddelfrydol).
Nesa', gorchuddiwch weddill y dudalen (yn defnyddio beiro, inc neu permanent marker) gyda phatrymau, lliwiau a lluniau. Gwelwch eich darn o farddoniaeth yn amlygu ei hun yn araf deg!
Poster newid hinsawdd
Y cam cyntaf yw i greu slogan gan gasglu geiriau sy'n berthnasol i'r thema, er enghraifft planed, achub, dyfodol, egni, hinsawdd, coedwigoedd, ailgylchu, natur ac yn y blaen.
Edrychwch am eiriau sy'n odli gyda rhain (gallwch ddefnyddio'r i helpu). Treuliwch ychydig o amser yn chwarae gyda'r geiriau i ysgrifennu slogan i'ch baner. Mae'n ddefnyddiol i ysgrifennu'r geiriau ar ddarnau gwahanol o bapur sgrap i symud o amgylch y bwrdd a gweld y slogan yn ffurfio felly.
Dyma ychydig o enghreifftiau sloganau i roi syniadau i chi:
- Peidiwch byth bythoedd â thorri coedwigoedd
- Pawb o bob oed, gofalwch am ein coed
- Rhaid bod yn gyfeillgar i achub ein daear
- Byddwch yn llafar, codwch eich llais dros y ddaear
- Rhaid i ni weithredu, mae'r byd yn cynhesu
I greu delwedd i'ch poster, dechreuwch trwy fraslunio llun o blaned neu gylchoedd canol coeden ar bapur A4 gydag inc, pinau ffelt, pensiliau, paent, neu pa bynnag ddefnyddiau sydd gennych wrth law. Gall hwn fynd yng nghanol y poster.
Yna, twriwch trwy hen gylchgronau a thorri unrhyw lun perthnasol. Gallwch ychwanegu rhain o amgylch eich planed neu gylch coeden, yn gweithio o'r tu fewn allan, gan awgrymu eu bod nhw'n tyfu allan o ganol y llun. I ychwanegu'r slogan, torrwch lythrennau allan o bapur newydd neu gylchgrawn, neu defnyddiwch stamps os oes gennych rai, ac ychwanegu'r geiriau i'ch poster.
Cerrig Stori
Os oes gennych gerrig llyfn crwn wrth law, gyda phinau ffelt 'POSCA' (sydd ar gael ar y we), cerwch ati i ddylunio cymeriadau yn defnyddio dwy garreg i bob cymeriad - un i'r pen ac un i'r corff. Gall y cymeriadau fod yn ffug neu wedi eu seilio ar aelodau o'r teulu!
Gallwch ysgrifennu proffil ffug i bob cymeriad, er enghraifft rhowch enw, oedran, pŵer arbennig, man gwan, hoff bethau, cas bethau. Dewiswch chi beth hoffech chi wneud.
Beth am wneud y weithgaredd yma eto, ond y tro yma gyda gwrthrychau amrywiol fel car, buwch, modrwy neu goeden, a chreu stori yn eich llyfr braslunio, sy'n cynnwys yr holl bethau sydd ar eich cerrig.
Gallwch gynnwys gwrthrychau sy'n ymwneud â'r sefyllfa yn y wlad ar hyn o bryd oherwydd y coronafeirws - ysgol, awyren, germau, llyfrau, ffrindiau. Byddai modd dechrau sgwrs am unrhywbeth sy' ar eich meddwl.
Helfa drysor
Syniad arall ar sut i ddefnyddio'r cerrig gyda phlant llai: cuddiwch y cerrig o amgylch y tÅ· a'r ardd, a gofynnwch i'r plant eu casglu fel helfa drysor.
Pan fydd pawb wedi casglu eu cerrig, cyfrwch faint sydd gennych. Bydd y plentyn gyda'r nifer mwyaf o gerrig yn cael y tro cyntaf i ddyfalu pa ben sy'n mynd gyda pha gorff. Bydd pawb yn cael tro i wneud hyn.
Creu brwshys paent naturiol
Os yw'n bosib i chi wneud hyn yn yr ardd neu o gwmpas eich tÅ·, casglwch unrhyw ddail, brigau neu bethau naturiol diddorol. Yna, gyda darn o gortyn, clymwch gasgliad o'r dail gyda'i gilydd a'u clymu i ben y brigyn. Dyma'ch brwsh paent newydd!
Bydd y plant yn mwynhau defnyddio eu brwshys gyda phaent lliwiau gwahanol.
Gadewch y llun i sychu (mae'n debygol y bydd y llun yn edrych fel llanast), a defnyddiwch y papur fel cefndir i fraslun neu lun arall.
Inc bagiau te ar gyfer braslunio
Rhowch chwech bag te cyffredin mewn mwg a llenwi hanner y mwg gyda dŵr berwedig.
Gadewch iddo oeri. Gwasgwch y bagiau te yn ofalus i mewn i'r dŵr, gan gasglu'r te i gyd a chael gwared o'r bagiau. Tywalltwch y te i mewn i jar glân.
Ychwanegwch binsied o halen, llwy de o finegr a llwy de o gum arabic (mae modd prynu hwn ar-lein). Ysgwydwch y gymysgedd a'i adael dros nos. Brasluniwch gyda'r inc yn y bore!
Mae modd gwneud y broses hyn yn defnyddio petalau blodau yn lle bagiau te hefyd. Cyfle i arbrofi gyda lliwiau anhygoel natur.
Hefyd o ddiddordeb: