Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cap cyntaf i'r prop WillGriff John yn erbyn Yr Alban
Bydd prop Sale, WillGriff John yn ennill ei gap cyntaf i Gymru wrth iddyn nhw groesawu'r Alban i Stadiwm Principality brynhawn Sadwrn.
Mae pedwar newid i'r t卯m gafodd eu trechu gan Loegr yn Twickenham ar gyfer g锚m olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Bydd y mewnwr Rhys Webb yn dechrau ei g锚m gyntaf dros ei wlad ers bron i ddwy flynedd a hanner, gan gymryd lle Tomos Williams.
Mae clo'r Dreigiau, Cory Hill yn cymryd lle Jake Ball oherwydd anaf, tra bod Wyn Jones yn dychwelyd i'r t卯m yn lle Rob Evans.
Fe fydd y capten, Alun Wyn Jones yn dod yn gyfartal 芒 record Richie McCaw o Seland Newydd am y nifer fwyaf o gapiau rhyngwladol, wrth iddo ennill ei 148fed cap.
Bydd Jones yn ennill cap rhif 139 dros Gymru ddydd Sadwrn, ac mae wedi gwneud naw ymddangosiad i'r Llewod hefyd.
Y g锚m rhwng Cymru a'r Alban yw'r unig un sy'n mynd yn ei blaen yn y gystadleuaeth y penwythnos hwn, wedi i'r gemau yn Ffrainc a'r Eidal gael eu gohirio.
T卯m Cymru
Leigh Halfpenny; George North, Nick Tompkins, Hadleigh Parkes, Liam Williams; Dan Biggar, Rhys Webb; Wyn Jones, Ken Owens, WillGriff John, Cory Hill, Alun Wyn Jones (capt), Josh Navidi, Justin Tipuric, Ross Moriarty.
Eilyddion: Ryan Elias, Rhys Carr茅, Leon Brown, Will Rowlands, Taulupe Faletau, Gareth Davies, Jarrod Evans, Johnny McNicholl.