Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Coronafeirws: Gwybodaeth i deithwyr
Yn sgil datganiad Sefydliad Iechyd y Byd bod hwn yn argyfwng iechyd y cyhoedd o bryder rhyngwladol, mae Prif Swyddogion Meddygol y DU wedi codi'r risg i'r DU o isel i gymedrol.
Nid yw Llywodraeth y DU yn cynghori pobl i beidio 芒 theithio ar awyrennau ond mae teithwyr sydd yn dychwelyd i'r DU o wahanol wledydd ar draws y byd yn cael eu cynghori i ddilyn cyfarwyddiadau manwl er mwyn ceisio rhwystro'r firws rhag lledu ymhellach.
Y cyngor cyffredinol i deithwyr ydy i roi gwybod am unrhyw symptomau y maen nhw'n eu datblygu yn ystod yr hediad, ar adeg cyrraedd, neu ar 么l gadael y maes awyr.
Teithwyr sy'n dychwelyd o dramor
Arhoswch gartref ac osgowch gysylltiad 芒 phobl eraill ar unwaith os ydych wedi teithio i'r DU o'r lleoedd canlynol yn y 14 diwrnod diwethaf, hyd yn oed os nad ydych chi'n arddangos unrhyw symptomau:
- Iran
- Talaith Hubei yn China
- Rhannau penodol o'r Eidal (ardaloedd Lombardy, Emilia Romagna, Pesaro e Urbino, Piemonte a Veneto)
- Unrhyw le yn Yr Eidal cyn neu ar 9 Mawrth
- Daegu, Cheongdo or Gyeongsan yn Ne Korea
Arhoswch gartref ac osgoi cysylltiad 芒 phobl eraill os ydych wedi teithio i'r DU o'r lleoedd canlynol yn y 14 diwrnod diwethaf ac mae gennych beswch, tymheredd uchel neu drafferth anadlu, hyd yn oed os nad yw'ch symptomau yn ddifrifol o gwbl:
- tir mawr China, y tu allan i dalaith Hubei
- Yr Eidal, y tu allan i'r ardaloedd lle mae symudiadau wedi'u cyfyngu
- De Korea, y tu allan i'r ardaloedd gofal arbennig
- Cambodia
- Hong Kong
- Japan
- Laos
- Macau
- Malaysia
- Myanmar
- Singapore
- Taiwan
- Gwlad Thai
Y cyngor gan Wasanaeth Iechyd Cymru ydy i beidio 芒 mynd i feddygfa, fferyllfa nac ysbyty ond yn hytrach i ffonio 111 (y gwasanaeth coronafeirws am ddim ar gyfer Cymru) i gael gwybod beth i'w wneud nesaf.
Mae rhagor o wybodaeth a chyngor ynghylch coronafeirws, gan gynnwys sut mae ynysu eich hun adref, ar gael ar wefan Gwasanaeth Iechyd Cymru.
Cyngor teithio
Mae'r Swyddfa Dramor yn cynghori yn erbyn pob math o deithio i'r Eidal os nad yw'n hanfodol, oherwydd achos parhaus o coronafeirws ac yn unol 芒 gwahanol reolaethau a chyfyngiadau a osodwyd gan awdurdodau'r Eidal ar 9 Mawrth.
Ar hyn o bryd nid yw Llywodraeth y DU yn cynghori pobl i osgoi trafnidiaeth gyhoeddus.
Y gred ydy nad ydy coronafeirws yn bresennol yn yr awyr fel y mae feirws y ffliw yn debygol o fod, felly mae'n rhaid i bobl fod mewn cyswllt agos er mwyn ei ddal.
Yn 么l Gwasanaeth Iechyd Cymru mae cyswllt agos yn golygu bod llai na dau fetr i ffwrdd oddi wrth berson sydd 芒'r feirws am fwy na 15 munud.
Felly mewn gwirionedd mae'r risg posib o ddal y feirws ar dr锚n neu ar fws yn dibynnu'n llwyr ar ba mor llawn ydyn nhw, ac fe fydd hyn yn amrywio o ardal i ardal, ac o daith i daith.
Yn 么l cwmni Network Rail maen nhw'n parhau gyda'u harferion arferol o ran glanhau cerbydau tr锚n ond eu bod nhw'n paratoi ar gyfer achlysuron lle byddai angen cyflwyno system glanhau arbenigol mewn gorsafoedd.
Y cyngor i deithwyr yn gyffredinol yw'r un peth ac i bawb arall - golchwch eich dwylo, glanhewch arwynebau ble mae'n bosib a gwnewch yn si诺r eich bod yn tisian neu'n peswch i mewn i hances bapur a'i daflu'n syth.