Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Chwe Gwlad: Lloegr 33-30 Cymru
Mae ymgyrch siomedig Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi cael ergyd pellach ar 么l colli yn erbyn Lloegr yn Twickenham.
Fe ildiodd Cymru ddau gais yn yr hanner cyntaf - Anthony Watson yn sgorio ar 么l 5 munud ac yna, ar 么l 34 munud, Elliot Daly yn sgorio ail gais Lloegr.
Fe gafodd Gymru adfywiad yn y munudau olaf - a dau gais hwyr iawn -ond roedd hi'n rhy hwyr i ennill y g锚m.
Roedd gan y Saeson fantais o 20-9 ar yr egwyl, ciciau cosb Dan Biggar a Leigh Halfpenny yn cadw'r Cymry o fewn cyrraedd.
Yn gynnar iawn yn yr ail hanner fe groesodd Justin Tipuric o dan y pyst ar 么l cyfnod o chwarae gwefreiddiol.
Ond fe ddaeth trydydd cais i Loegr - Manu Tuilagi yn croesi yn ddiwrthwynebiad ar 么l cyfnod o chwarae grymus gan Loegr.
Roedd 'na gyfnodau o chwarae ymosodol da gan Gymru yn yr ail hanner ond fe gadwodd Lloegr reolaeth ar y g锚m, er gwaethaf cerdyn coch i Tuilagi am dacl beryglus ar George North.
Yn ystod y munudau olaf roedd Lloegr yn chwarae 芒 13 dyn ar ol i Ellis Genge gael cerdyn melyn.
Fe fanteisiodd Cymru 芒 dau gais hwyr - trosgais i Dan Biggar cyn i Tipuric sgorio ei ail gais yn yr eiliadau olaf.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru wedi colli tair gem yn olynol, ac mae t卯m hyfforddi newydd Cymru o dan bwysau mawr i guro'r Alban dydd Sadwrn nesaf.