Dyn wedi marw ar 么l disgyn i afon yn Ystradgynlais

Disgrifiad o'r llun, Y gwasanaethau brys ger Clwb Rygbi Trebanos

Mae dyn wedi marw ar 么l iddo ddisgyn i'r afon yn Ystradgynlais tua 10:00 fore dydd Sul.

Fe gafwyd hyd i'w gorff yn ddiweddarach ar ran o'r afon yn ardal Trebanos.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101.

Daw'r newyddion wrth i Heddlu De Cymru gyhoeddi fod y llifogydd yn ddigwyddiad o bwys sylweddol, ac mae'r gwasanaethau brys yn parhau i gynnig cymorth i gymunedau ar hyd y de yn dilyn glaw trwm dros y penwythnos.

Ffynhonnell y llun, Garry Wakeham

Disgrifiad o'r llun, Cerbydau'r gwasanaethau brys yn ystod y digwyddiad