Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Firws yn effeithio ar fwytai Chineaidd yng Nghasnewydd'
Mae bwytai Chineaidd yng Nghasnewydd wedi colli traean o'u busnes ers coronafeirws, yn 么l aelodau o'r gymuned Chineaidd yn y ddinas.
Dywed aelodau o Ganolfan Cymuned Chineaidd Casnewydd eu bod yn poeni am y firws a'u bod yn cymryd pob gofal.
Mae'r rhai sydd newydd ddod n么l i'r ddinas o China, meddent, wedi penderfynu aros yn eu tai.
Mae myfyrwyr prifysgol Chineaidd yng Nghymru wedi cael cyngor i beidio 芒 gwisgo masg yn gyhoeddus rhag ofn iddyn nhw dderbyn sylwadau anffafriol.
Dywedodd Sally Lau, fferyllydd o Gasnewydd ac aelod o'r Ganolfan Cymuned Chineaidd: "Mae pobl sydd 芒 busnes prydau parod Chineaidd yn credu eu bod yn derbyn traean yn llai o arian ac mae hynny yn syweddol."
Dywedodd Pat Lin, ysgrifenyddes y Ganolfan Cymuned Chineaidd bod sawl busnes yn dioddef: "Dwi wedi clywed bod dau neu dri busnes yn dioddef ond mi all pobl ddod i ben 芒 hynny am gyfnod byr."
Paratoi
Ychwanegodd Mrs Lin, sydd wedi byw yn y ddinas am dros 40 mlynedd: "Fe gawson ni ddigwyddiad pawb ynghyd wythnos diwethaf ac roedd yna lai o bobl yno nag yn y blynyddoedd cynt.
"Fe benderfynodd y rhai a ddaeth n么l o China beidio mynd allan."
Mae Dr Giri Shankar, prif ymgynghorydd diogelu iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau nad oes achos o coronafeirws yng Nghymru.
Mewn datganiad dywedodd: "Ry'n yn gweithio'n agos gyda gwledydd eraill yn y DU, Llywodraeth Cymru a'r GIG yng Nghymru i gadw llygad ar coronafeirws.
"Mae'n debyg y daw achosion i Gymru ac ry'n wedi paratoi ar gyfer hynny yn ofalus er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd."
Dywed pobl Chineaidd yng Nghymru eu bod yn poeni am gamdriniaeth senoffobig yn dilyn coronafeirws.
Ymateb heddluoedd
Mae Heddlu De Cymru wedi dweud wrth 91热爆 Cymru eu bod wedi derbyn tri adroddiad am sylwadau cysylltiedig 芒 coronafeirws.
Dywedodd llefarydd: "Mae'n rhaid i unrhyw un sydd wedi dioddef trosedd casineb neu sydd wedi bod yn dyst i ddigwyddiad cysylltiedig 芒 chasineb adrodd am y digwyddiad."
Dywed Heddlu Gwent a Gogledd Cymru nad ydyn nhw wedi cael unrhyw adroddiad am ddigwyddiad cysylltiedig 芒 coronafeirws.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cael cais i wneud sylw.
Dywedodd Robin Zhang, myfyriwr o China sy'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ei fod wedi cael sylwadau dirmygus tra'n cerdded ar y stryd.
"Roeddwn i," meddai, "yn cerdded o ganol y ddinas i fy llety a thra'n cerdded ar hyd yr Heol Eglwys Fair mi wnaeth pedwar o bobl weiddi 'coronafeirws'. Roeddwn i mewn cryn sioc ac yna fe wnaethon nhw ystumiau cuddio eu ceg a'u trwyn gyda choler eu crysau.
"Mae'n bwysig fod pobl yn ymwybodol mai coronafeirws yw'r enw sydd wedi cael ei roi i'r salwch - nid firws Wuhan na firws China."
'Angen gwisgo masg'
Cadarnhaodd Robin bod myfyrwyr Chineaidd yng Nghymru wedi cael cyngor i beidio gwisgo masgiau yn gyhoeddus.
Ychwanegodd: "Dwi'n gweld pam y rheswm dros y cyngor ond yn wir nid dyna'r cyngor cywir, ry'n yn gwisgo masgiau er mwyn diogelu ni'n hunain rhag firws posib."
Dywedodd Sally Lau ei bod yn "credu mai mater o amser yw hi" cyn y bydd mwy o bobl yng Nghymru yn dioddef sylwadau dirmygus a nododd ei bod yn teimlo'n "anghyfforddus" gyda'r hyn y mae'n ei weld ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ychwanegodd: "Os dwi'n tisian yn uchel yn gyhoeddus fe fyddai'n fwy ymwybodol o hynny. Dwi wedi gweld pobl yn cadw pellter oddi wrth pobl Chineaidd ar fws am eu bod yn gwisgo masg. Yn anffodus mae wastad tuedd senoffobig ym mynd i fodoli."