Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Mark Drakeford: 'Hunaniaeth Ewropeaidd Cymru yn parhau'
Bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn swyddogol am 23:00 nos Wener, wedi 47 mlynedd o aelodaeth.
Am yr 11 mis nesaf, fe fydd y wlad yn parhau i ddilyn rheolau'r undeb wrth i'r ddwy ochr drafod eu perthynas yn y dyfodol a cheisio dod i gytundeb masnach.
Dyma gyfnod o "adnewyddu" a "newid", meddai Boris Johnson, tra bod Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi mynnu bod "hunaniaeth Ewropeaidd Cymru yn parhau".
Fe bleidleisiodd y DU o blaid Brexit ym mis Mehefin 2016, ond fe fydd y wlad yn parhau o fewn yr Undeb Tollau a'r Farchnad Sengl yn ystod y cyfnod trosglwyddo tan 31 Rhagfyr.
Bydd baneri'r UE, sy'n sefyll y tu allan i adeiladau'r Senedd a Th欧 Hywel ym Mae Caerdydd, yn cael eu tynnu i lawr am 23:00 ddydd Gwener a'u cyfnewid am faneri Cymru.
Bydd cabinet llywodraeth y DU yn cyfarfod yn Sunderland yn ddiweddarach, sef y ddinas gyntaf i ddatgan ei bod o blaid Brexit yn y refferendwm.
Mewn araith ym Mae Caerdydd, fe wnaeth Mr Drakeford drafod lle Cymru o fewn Prydain a'r byd wedi Brexit, gan ddweud bod dydd Gwener yn ddiwrnod i "edrych ymlaen, nid yn 么l".
"Fe all bawb gytuno bod gadael yr Undeb Ewropeaidd heno yn drobwynt hanesyddol i'n gwlad ni," meddai. "A dyna'r thema rwyf eisiau cyfeirio ato heddiw: y dyfodol.
"Ry'n ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd heno. Ond mae hunaniaeth Ewropeaidd Cymru yn parhau. Fe fyddwn yn wlad Ewropeaidd tra bod Cymru'n bodoli.
"Ry'n ni'n parhau i fod yn agored sy'n edrych tuag allan."
Ychwanegodd Mr Drakeford fod y gwaith caled yn dechrau nawr i lywodraeth Boris Johnson, ac nad oedd gadael yr UE "yn benderfyniad sy'n dod 芒'r trafod yna i ben".
"Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn dod 芒 phwysau a straen i'r Deyrnas Unedig hefyd, ac fe fyddwn ni yn Llywodraeth Cymru yn parhau i alw am ystyried o ddifrif y ffordd mae'r Deyrnas Unedig yn gweithredu gyda'n gilydd ar 么l gadael yr Undeb Ewropeaidd."
Nos Wener fe fydd Mr Johnson yn annerch y wlad, gan ddweud bod 'na gyfle "hanesyddol" i gael cydraddoldeb i'r DU.
"Dyma gyfnod o newid adnewyddu cenedlaethol a newid go iawn... dyma'r wawr ar ddechrau cyfnod newydd pan na ddylwn ni dderbyn bod eich cyfle mewn bywyd - cyfle eich teulu - yn dibynnu ar ba ran o'r wlad wnaetho' chi gael eich magu.
"Dyma'r cyfnod pan ry'n ni'n dechrau uno a sicrhau bod pawb yn gydradd."
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Simon Hart fod Brexit yn "bennod newydd yn ein hanes" fyddai'n "cryfhau'r undeb" yn y pen draw.
Bydd Plaid Cymru yn canolbwyntio ar sicrhau bod 'na "gynllun positif" i Gymru wedi Brexit, meddai ei harweinydd Adam Price.
Cyfleoedd newydd?
Wrth siarad ar raglen Post Cyntaf ar 91热爆 Radio Cymru, fe ddywedodd Peredur Williams o Hufenfa De Arfon y gallai Brexit arwain at fwy o "waith papur" wrth geisio allforio i wledydd yr Undeb Ewropeaidd.
"Mae 'na heriau o'n blaenau ni wrth gwrs fel cwmni - mi ydan ni'n allforio 'chydig o'n cynnyrch, dim llawer," meddai.
"[Ond] mi ydan ni'n gobeithio y gallwn ni dyfu ar yr allforion yna os fydd 'na gyfleoedd."
Ychwanegodd: "Roedd 'na rhyw decwch yn dod o Ewrop, roeddan ni'n gwybod ein bod ni'n cael ein cynrychioli yna, ac o bosib byddwn ni'n colli hynny."
Pleidleisio i adael wnaeth Richard Parry, sy'n ffermio ym Mryncir.
"'Swn i'n feddwl bod ni'n ennill democratiaeth yn 么l," meddai.
"Doedd gen i'm teimladau cryf iawn yn 2016, ond o'n i'n teimlo bod ffordd Ewrop o lywodraethu yn ffordd annemocrataidd iawn."
Ychwanegodd fodd bynnag bod heriau mwy na Brexit yn wynebu'r diwydiant amaeth yn y blynyddoedd i ddod, fel "newid hinsawdd".
I Carol Jones o gwmni Welsh Lady Preserve fodd bynnag, mae proses Brexit eisoes wedi arwain at drafferthion i'w chwmni hi.
"Beth sy'n achosi pryder ar gychwyn y broses i ni ydy'r cyflenwad o ffrwyth a siwgr a llysiau 'dan ni'n cael o Ewrop," meddai.
"Beth 'dan ni 'di weld, yn y cyfnod ansicrwydd sydd 'di bod, bod 'na brisiau wedi chwyddo, bod 'na brisiau ella ddim yn dod yn rhwydd i ni fel bod ni'n gallu pasio prisiau 'mlaen i gwsmeriaid.
"Felly 'dan ni'n gorfod cymryd 'chydig bach o gambl ar faint fydd pethau'n eu costio, a 'dan ni'm yn gwybod os 'di rhain am fynd yn uwch neu'n is yn ystod y flwyddyn."