Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Lluniau: Oes aur chwareli'r gogledd
Daeth y newyddion heddiw fod Llywodraeth y DU wedi enwebu ardaloedd llechi Gwynedd i fod yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Dyma'r unig enwebiad gan y Deyrnas Unedig eleni, ac os bydd yn llwyddiannus, dyma fydd pedwerydd safle UNESCO Cymru, ynghyd 芒 Thraphont Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Chestyll Edward y Cyntaf.
Yr ardaloedd penodol sydd wedi eu cynnwys yn yr enwebiad yw:
- Chwarel Lechi Penrhyn, tref Bethesda, a Dyffryn Ogwen i Borth Penrhyn;
- Tirwedd Chwarel Lechi Dinorwig;
- Tirwedd Chwareli Llechi Dyffryn Nantlle;
- Chwareli Llechi Gorseddau a Prince of Wales, Rheilffyrdd a Melin;
- Ffestiniog: ei Cheudyllau a Chwareli Llechi, 'prifddinas llechi' a'r rheilffordd i Borthmadog;
- Chwarel Lechi Bryneglwys, pentref Abergynolwyn a Rheilffordd Talyllyn.
Mae'r llyfr Welsh Slate: Archaeology and History of an Industry gan David Gwyn, archeolegydd diwydiannol o Benygroes, yn olrhain hanes rhai o'r chwareli a'u cymunedau. Yn y gyfrol mae yna luniau trawiadol o'r amodau gwaith yn y chwareli, a gafodd eu cyhoeddi gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Dyma flas o rai o'r lluniau o'r gweithwyr a'r tirwedd:
Cafodd y lluniau yma eu cyhoeddi gan Cymru Fyw yn wreiddiol mewn erthygl ym mis Mai 2015.
Hefyd o ddiddordeb: