Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Diffygion amlwg' o beidio dilyn rheolau UE ar 么l Brexit
Mae Llywodraeth Cymru wedi beirniadu cynlluniau Llywodraeth y DU i beidio dilyn rheolau'r Undeb Ewropeaidd, gan ddweud bod "diffygion amlwg" yn bodoli.
Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles y gallai "arwain at golli swyddi a cholli buddsoddiad yng Nghymru".
Daw hynny wedi i'r Canghellor, Sajid Javid ddweud na fyddai'r DU yn dilyn rheolau Ewropeaidd ar 么l Brexit.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Bydd Llywodraeth y DU yn negodi trafodaethau rhyngwladol ar ran y DU gyfan.
"Byddwn yn cydweithio'n agos gyda gweinyddiaethau datganoledig."
'Niwed economaidd'
Mewn cyfweliad gyda'r Financial Times, dywedodd Mr Javid y byddai angen i fusnesau Prydeinig "addasu" i'r ffaith nad oedd y wlad am fod yn dilyn yr un rheolau 芒'r UE yn y dyfodol.
Wnaeth y Canghellor ddim dweud pa reolau Ewropeaidd yr oedd eisiau peidio eu dilyn mwyach, ond dywedodd y byddai rhai busnesau yn elwa ac eraill ar eu colled.
Rhybuddiodd busnesau y gallai hynny effeithio ar swyddi ac arwain at brisiau bwyd uwch.
Wedi i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr bydd 11 mis o gyfnod trawsnewid, ble bydd y DU yn parhau i ddilyn rheolau'r UE a chyfrannu tuag at ei gyllideb.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe fydd y DU a'r UE yn trafod beth fydd y berthynas hir dymor pan mae'n dod at fasnachu.
Mae llywydd newydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen wedi dweud yn y gorffennol y byddai "symud i ffwrdd" o reolau'r UE yn naturiol yn arwain at "bartneriaeth lai agos" gyda'r DU.
Yn dilyn eu dadansoddiad eu hunain o gynlluniau Llywodraeth y DU, dywedodd Cwnsel Cyffredinol Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles: "Mae'r dystiolaeth yn glir bod symud i ffwrdd o integreiddio economaidd gyda'r UE yn golygu niwed economaidd i'r DU.
"Mae'r UE wedi bod yn bartner masnachu allweddol ac fe fyddan nhw'n parhau i fod, ac mae llawer o fusnesau yn dibynnu ar gadwyni cyflenwi integredig ar draws yr UE sydd yn galw am fasnachu heb rwystrau."
Ychwanegodd: "Byddwn ni'n parhau i herio safbwynt sydd yn blaenoriaethu 'rhyddid' i'r DU symud oddi wrth safonau rheoleiddio'r UE yn hytrach na lles pobl Cymru."
Ddydd Mawrth bydd Aelodau Cynulliad yn pleidleisio ar ddeddf arfaethedig Boris Johnson i wireddu ymadawiad Prydain o'r UE ar 31 Ionawr, ac mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi argymell y dylen nhw wrthwynebu.