Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
25 rhybudd llifogydd mewn grym wedi'r tywydd garw
Mae 25 rhybudd llifogydd wedi bod mewn grym ar draws Cymru yn dilyn tywydd garw ddaeth y sgil storm Brendan ddydd Llun.
Dywedodd fod y mwyafrif o'r rhybuddion oren - sy'n awgrymu y dylid paratoi am lifogydd posib - mewn grym ar gyfer ardaloedd arfordirol yn y de-orllewin.
Mae dau rybudd coch, mwy difrifol, mewn grym - un yn Nyffryn Dyfrdwy Isaf, rhwng Llangollen a Threfalyn, a'r llall o amgylch Afon Wysg rhwng Aberhonddu a Glangrwyne.
Fe achosodd y storm i 2,000 o gwsmeriaid SP Energy Networks yng ngogledd Cymru fod heb drydan am gyfnod ddydd Llun, wrth i wyntoedd hyrddio i dros 80 cilomedr yr awr.
Dywedodd y cwmni fod timau ychwanegol o weithwyr wedi eu defnyddio i drwsio nam ar gyflenwadau trydan, wrth i broblemau ddechrau gyda'r cyflenwadau am 13:00 ddydd Llun.
Erbyn 19:00 roedd cyflenwad trydan y mwyafrif o'r cwsmeriaid wedi ei ail-gysylltu, ac mae'r cwmni wedi ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.
Bu tua 1,500 o gartrefi yn ne Cymru heb drydan hefyd am gyfnodau brynhawn Llun.
Mae rhybudd melan am wyntoedd cryfion yn parhau mewn grym gan y Swyddfa Dywydd nes hanner nos, nos Fawrth.