Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Herio 'anghydbwysedd p诺er' rhwng dynion a merched
Mae pedwar sefydliad wedi dweud eu bod am fynd i'r afael ag "anghydbwysedd p诺er" rhwng dynion a menywod yn y gweithle.
Mae'r grwpiau'n credu bod anghydraddoldeb yn creu diwylliant lle mae aflonyddu rhywiol yn cael ei normaleiddio ac yn gallu digwydd heb ei herio.
Mae hyn oherwydd bod mynd i'r afael 芒'r materion yma yn dibynnu ar fenywod yn adrodd am eu profiadau, sy'n eu rhoi nhw mewn sefyllfa fregus.
Mae elusennau ar draws y DU, gan gynnwys Chwarae Teg yng Nghymru, wedi ymrwymo i geisio ysgogi newid y diwylliant.
"Rydyn ni'n gwybod bod aflonyddu rhywiol, ac ofni aflonyddu rhywiol posib yn rhwystrau sylweddol i fenywod yn y gweithle," meddai Cerys Furlong, prif weithredwr Chwarae Teg.
Mae ymchwil yr elusen cydraddoldeb rhywiol yn dangos bod menywod mor ifanc ag 16 oed, yn penderfynu peidio gwneud cais am swyddi mewn rhai sectorau lle mae mwyafrif y gweithwyr yn ddynion, rhag ofn wynebu aflonyddu rhywiol.
"Mae'n hanfodol ein bod ni'n symud o'r sefyllfa lle mae cyfrifoldeb ar y dioddefwr i ddod ymlaen, tuag at ddiwylliant lle mae'r cyflogwr a'r rheolwyr yn cymryd safbwynt rhagweithiol," ychwanegodd Ms Furlong.
Ar 么l cael cefnogaeth gan y gronfa elusennol Rosa, fe fydd y sefydliadau'n gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle.
Galwodd Ms Furlong y cynllun yn "brosiect arloesol", gan ddweud y byddent yn darparu "adnoddau defnyddiol iawn i gyflogwyr eu defnyddio" gyda'r bwriad o ddileu'r broblem.
Bydd y prosiect hefyd yn ymchwilio i sut mae cyflogwyr, rheolwyr a gweithwyr yn ymdrin 芒 phrofiadau cyfredol, hyrwyddo diwylliant rhagweithiol, ac yn gwneud y gweithle yn lle gydag awyrgylch gwell i weithio.
'Cymdeithas fwy cyfartal'
Dywedodd cadeirydd pwyllgor llywio'r prosiect, Marai Lasai, fod y cynllun yn gosod "y sylfeini" ar gyfer cymdeithas fwy cyfartal.
"Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi gweld sylw digynsail i drais yn erbyn menywod a merched, gan gynnwys aflonyddu rhywiol," ychwanegodd.
"Rydyn ni'n benderfynol o beidio 芒 cholli'r momentwm hwnnw.
"Os ydym am roi diwedd ar aflonyddu rhywiol, mae angen newid diwylliant ar raddfa eang."