Ateb y Galw: Linda Brown, Theatr Bara Caws

Linda Brown, gweinyddydd 芒 Theatr Bara Caws, ac un o s锚r y gyfres ddychan 'Run Sbit, sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar 么l iddi gael ei henwebu gan Wynford Ellis Owen yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cael piano bach goch - ddim yn si诺r os oedd hi'n Nadolig neu'n ben-blwydd - ond dwi'n dal i gofio fy mod wedi gwirioni cael y piano yma. Efallai fy mod tua 4 oed. Hudolus.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Pan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd mi oeddwn i'n ffansio bachgen o'r enw Gareth Jones - hogyn distaw iawn - ond nes i erioed ddweud wrtho fo.

Mi oeddwn i wastad yn gobeithio y byddai o mewn part茂on o'n i'n mynd iddyn nhw - ond dim ond unwaith y gwelais o mewn parti a 'nes i ddim yngan gair hefo fo.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi'n meddwl mai un o'r digwyddiadau a gododd y mwya' o gywilydd arnaf oedd trio dod lawr sleid fawr yn Wet and Wild yn Florida. Mi es yn styc hanner ffordd lawr y sleid oherwydd fy mod wedi colli fy hyder - doeddwn i ddim yn rhyw nofiwr da iawn bryd hynny.

Mi ges yr hyder i barhau lawr i'r gwaelod, ac fel o'n i'n hitio'r d诺r mi ddaeth top fy siwt nofio i lawr. S么n am gywilydd!

A chywilydd hefyd cael fy llun yn nghylchgrawn Now a Closer fel mam Cerys Mathews - finnau'n gwybod dim nes i bobol ddechrau ffonio!

Disgrifiad o'r llun, Cerys Matthews - merch gyfrinachol Linda Brown?!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Dwi'n cr茂o reit aml, ond yn y car fyddai'n cael amser i feddwl a cael rhyw grei bach. Dwi'n reit sensitif ac mi wnaiff lot o bethau wneud i mi gr茂o.

Pan fyddai'n pasio t欧 fy Anti Myf a fu farw yn ddiweddar fyddai'n edrych i fyny i'r ffenest llofft a meddwl amdani yn y ffenest a finnau yn codi fy llaw arni. Dwi'n ei cholli yn fawr.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Mae gen i lawr o arferion drwg! Y mwyaf ydi hoardio- fedra i ddim cael gwared 芒 dim! Mae'n rhaid i mi gael therapi dwi'n credu - neu gael rhywun i mewn i'r t欧 i ddidoli popeth i mi. 'Sgin i byth amser i glirio chwaith, rhy brysur yn gneud pethau eraill. Un diwrnod mi wn芒i - dwi'n gaddo! Mi fydd fy ng诺r yn ddyn hapus iawn pan fydd yr holl jync yn diflannu.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Hwnna'n un anodd. Dwi'n credu mai Llyn Idwal yw'r ffefryn a hefyd i fyny t欧 n么l i'n t欧 ni - Tan y Garth a Chwarael Dr. Huws. A hefyd Pont y T诺r, Bethesda. Licio Ynys M么n a'i thraethau hefyd a Phen Ll欧n.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae yna lawer ohonynt! Efallai un o'r pigion oedd gweld 9Bach a'r Black Arm Band (Awstralia) yn sioe Mamiaith yn Galeri, Caernarfon rhai blynyddoedd yn 么l ac yna yn dilyn yn Greenwich, Llundain cyn y Gemau Olympaidd. Noson a diwrnod emosiynol iawn.

Disgrifiad o'r llun, Mae 9Bach wedi profi llawer o lwyddiant gyda'u caneuon hudolus

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Dwi'n berson penderfynol iawn, sensitif, emosiynol a chyfeillgar - a doniol yn 么l fy wyresau!

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Fy holl lyfr ydi Un Noson Ola' Leuad gan Caradog Prichard - dwi'n caru'r llyfr ers yn blentyn ac yn gweld y disgrifiadau yn y llyfr mor glir fel taswn i wedi byw yn y cyfnod. Mae o'n glasur.

O archif Ateb y Galw:

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Mae yna lot o bobl faswn i'n hoffi cael diod hefo nhw - ond efallai Eleanor, fy ffrind fu farw rhai blynyddoedd yn 么l. Dwi'n ei cholli yn fawr a braf yw cofio'r hwyl fydda ni yn ei gael bob amser. Mi fysai'n dda dal i fyny hefo hi.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Fedra i ddim meddwl am unrhyw beth penodol amdana i fy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod. Ond, dwi wedi cael fy mabwysiadu a Sais bach o'n i yn enedigol a fy nheulu o Lerpwl. Pwy s'a'n meddwl! Mor ddiolchgar i Now a Morfudd Thomas am fy mabwysiadau a'n nwyn i fyny yn Gymraes fach.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Ar fy niwrnod olaf ar y blaned mi faswn i'n gwneud yn si诺r fy mod yn cael parti enfawr hefo fy ng诺r, fy mhlant a fy wyresau a gweddill fy nheulu a fy ffrindiau gorau un. Faswn i ddim isio g'neud dim byd arall ond bod hefo nhw - dwi'n caru nhw gymaint.

Disgrifiad o'r llun, Linda gyda'i dwy ferch Caren a Lisa J锚n

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Un o fy hoff ganeuon i yw Plentyn gan 9Bach. Mae Lisa yn s么n am roi genedigaeth i'w chyntaf-anedig, a dwi'n hoffi'r gerddoriaeth gymaint.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Fy newis cyntaf i fyddai prif gwrs a phwdin - dwi'n hoff iawn o fy mwyd. 'Swn i'n d'eud y baswn i'n mwynhau cyw i芒r wedi cael ei goginio yn arbennig, efallai hefo bacwn o'i gwmpas. Yn hoff o chwaden hefyd mewn saws oren.

I bwdin, cr猫me br没l茅e - caru hwnnw. Neu treiffl sieri - caru hwnnw hefyd. Anodd ydi dewis rili 'de!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Cwestiwn anodd iawn. Efallai y baswn i'n licio bod yn Catrin Finch am ddiwrnod a medru chwarae'r delyn fatha hi. Mae hi'n anhygoel o dalentog. Mae'n neis cael breuddwydio tydi?!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Angharad Tomos