'Defnyddio llai o geir a stofiau pren' i wella llygredd aer

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Port Talbot yw un o'r trefi mwyaf llygredig yn y DU

Mae cynllun awyr glân i Gymru wedi'i gyhoeddi gydag ymrwymiad i wneud mwy i daclo llygredd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif fod llygredd aer yn cyfrannu at hyd at 1,400 o farwolaethau'r flwyddyn.

Yn ogystal â mynd i'r afael â materion ceir a diwydiant, mae'r cynllun yn archwilio'r duedd ar gyfer stofiau llosgi coed mewn cartrefi ac effeithiau tân gwyllt a choelcerthi.

"Rydyn ni wedi gwneud cynnydd da ond mae'n rhaid i ni barhau i wella," meddai Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths.

Mae Llywodraeth Cymru am basio Deddf Aer Glân yn nhymor y Cynulliad hwn - hyd at 2021.

Ond mae'n fater cymhleth oherwydd newidiadau yn y tywydd a'r amodau atmosfferig, tra gall crynodiadau llygredd fod yn uwch i bobl sy'n byw ger ffyrdd prysur a safleoedd diwydiannol.

Buddion ariannol

Dywed yr adroddiad fod llygredd aer yn "parhau i fod yn un o'r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf" yng Nghymru.

Ond mae'n amcangyfrif, os bydd Cymru'n llwyddo i leihau effaith llygredd aer o ddeunydd gronynnol mân erbyn 2030, gallai fod â buddion iechyd gwerth rhwng £50m a £96m y flwyddyn.

Mae gweinidogion nawr eisiau i banel o arbenigwyr gynghori ar y dull cywir ac i dargedau fod yn rhan o'r ddeddf aer glân newydd.

Ffynhonnell y llun, Geography

Disgrifiad o'r llun, Mae'r adroddiad am i gynghorau lleol ofalu bod stofiau llosgi pren yn cael eu defnyddio'n gywir

Mae ymgynghoriad 12 wythnos wedi'i lansio ar y cynllun.

"Dylai pawb yng Nghymru allu anadlu awyr iach, cyrchu adnoddau naturiol iach a gwarchodedig a mwynhau twf economaidd cynaliadwy a glân," meddai Ms Griffiths.

Dywedodd Joseph Carter, cadeirydd Awyr Iach Cymru, grŵp o elusennau, ei fod yn gyfle i lywodraeth a chynghorau Cymru "weithio'n agosach gyda'i gilydd i gyflawni'r aer glanaf posib".

Sut mae'r adroddiad am i ni leihau llygredd aer?

Stofiau llosgi coed

Mae'r adroddiad yn awgrymu peidio llosgi coed gwlyb a sicrhau bod stofiau a pheiriannau yn cael eu cynnal a'u cadw'n briodol.

Mae'r adroddiad yn cydnabod fod llawer o bobl yn dibynnu ar stofiau pren a glo i gynhesu eu cartrefi, ond mae'n dymuno adolygu'r cyfrifoldebau sydd gan gynghorau i daclo allyriadau o danau domestig.

Tanau gwyllt a choelcerthi

Mae'r adroddiad eisiau asesu cyfraniad coelcerthi domestig a thân gwyllt i lygredd - gan gydnabod y gallan nhw niweidio pobl iach yn ogystal â'r rhai sydd eisoes yn dioddef o glefydau anadlol.

Gallai rheoliadau ac ardaloedd rheoli mwg fod yn rhan o orfodi, yn dibynnu ar lefelau llygredd.

Defnydd o geir

Mae'n addo edrych ar ffyrdd o gwtogi ar ddefnydd ceir - fel prisio ffyrdd, parthau aer glân a chymhellion i sgrapio cerbydau sy'n creu mwy o lygredd.

Plannu coed

Fe all y "goeden iawn yn y lle iawn" helpu i wella ansawdd aer, yn ogystal â dod â buddion ehangach, fel adfer cynefinoedd sensitif sydd wedi'u difrodi gan lygredd aer, yn ôl y cynllun.

Dywedodd cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Haf Elgar eu bod yn croesawu'r cynllun ond bod "angen gweithredu ar frys".

"Mae'n galonogol gweld bod cynigion cynhwysfawr mewn amrywiaeth o feysydd o deithio i'r economi, er enghraifft monitro'r aer tu allan i'n hysgolion ac ysbytai, cynyddu teithio llesol, a phlannu coed i amsugno aer brwnt," meddai.

"Ond mae angen gweithredu ar frys. Gallwn ni ddim aros blynyddoedd i gael deddfwriaeth yn ei le.

"Mae llygredd aer yn lladdwr tawel, felly mae angen Deddf Aer Glan arnom o fewn tymor y Cynulliad yma."