Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw am gorau Cymraeg i bobl 芒 dementia
Mae angen sefydlu c么r Cymraeg i bobl sydd 芒 dementia - dyna neges cyfarfod a gafodd ei gynnal yn un o gapeli Caerdydd dros y penwythnos.
Y gyflwynwraig Beti George a'r gantores Si芒n Meinir a drefnodd y digwyddiad oedd wedi ei anelu yn bennaf at bobl sydd 芒 dementia a'u gofalwyr.
Yn ystod ei chyflwyniad yn festri Salem, Treganna dywedodd Beti George: "Mae yna gorau fel Corws Forget-me-not yn bodoli mewn llefydd fel Caerdydd a Llandudno - mae nhw'n 'neud gwaith da iawn gan fod cerddoriaeth yn fodd i ailgydio yn y gorffennol ac yn ffordd effeithiol i gyfathrebu 芒 chleifion dementia ond mae eu repertoire yn Saesneg - mae'n bwysig i ni gael rhywbeth tebyg yn Gymraeg.
"Be fydden ni'n lico yw ffurfio c么r Cymraeg i gleifion a'u gofalwyr.
"Rhaid hefyd chwalu y stigma sydd yn gysylltiedig 芒 dementia - clefyd yw e. Ond yn aml 'dyw pobl ddim am siarad amdano - pam y stigma?
"Bydden ni wrth ein bodd petaem yn gallu sefydlu digwyddiadau anffurfiol i gleifion a'u gofalwyr a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg."
Yn ystod y cyfarfod canwyd nifer o garolau cyfarwydd o dan arweiniad y gantores Si芒n Meinir ac roedd Delwyn Si么n hefyd yn canu ffefrynnau - yn eu plith y glasur Un Seren.
Mae Si芒n Meinir, yn ogystal 芒 bod yn gantores, bellach yn hyfforddwr dementia wedi iddi fod ar nifer o gyrsiau yn dysgu mwy am yr afiechyd.
'Angen chwalu ffiniau'
Wrth siarad 芒 Cymru Fyw dywedodd ei bod hi'n teimlo fel rhywun oedd yn mynd i'r capel "ei bod yn bwysig gweithredu yn hytrach na dim ond eistedd yn gwrando.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod capeli yn gwneud rhywbeth ac rwy'n gobeithio y bydd Undeb yr Annibynwyr yn y dyfodol agos yn targedu gweithredoedd fel yr un yma.
"Dwi wedi cael sawl profiad gwerthfawr wrth ymweld 芒 chartrefi. Un ohonynt oedd gweld dawnswraig a fu yn perfformio yn Sadler's Wells yn ei chrwman mewn cartref ac wedi iddi glywed y g芒n Moon River fe ganodd hi yn hollol glir.
"Doedd hi ddim wedi siarad ers naw mlynedd. Fe wnaeth pawb arall dorri lawr.
"Mae canu yn fodd i ddod 芒 phobl n么l i'r presennol. Rydan ni am i bobl ag arwyddion cyntaf o golli meddwl hefyd elwa - mae pawb angen cefnogaeth.
"Dechreuad yw'r cyfarfod yma - does dim rhaid gweld y grisiau i gyd cyn cymryd y cam cyntaf.
"Mae'n bwysig chwalu ffiniau a rhoi cefnogaeth."
Roedd rhyw 40 yn bresennol yn y cyfarfod ddydd Sadwrn - rhai yn ddioddefwyr, rhai yn ofalwyr ac eraill wedi dod i gefnogi a chlywed y canu.
Gobaith y trefnwyr yw trefnu cyfarfod arall yn y flwyddyn newydd.
Ychwanegodd Beti George: "Byddai'n braf sefydlu c么r - yr hyn sy'n bwysig mewn digwyddiad fel hyn yw fod pawb yn gallu bod yn nhw eu hunain ac yn teimlo'n saff.
"Dyw e ddim ots pa mor ddrwg yw'r dementia - yr hyn sy'n bwysig yw bod y claf yn gallu canu neu glywed cerddoriaeth Gymraeg ac yn elwa o'r profiad."