Diwrnod i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau Cymraeg

Disgrifiad o'r llun, Mae Aled Roberts am weld cynnydd yn y defnydd o wasanaethau Cymraeg

Codi ymwybyddiaeth o wasanaethau Cymraeg a cheisio cynyddu defnydd ohonynt yw bwriad Diwrnod Hawliau'r Gymraeg, sy'n cael ei ddathlu ddydd Gwener.

Bydd yn cael ei lansio gan Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg yn Ysgol Gynradd Brynaman gyda gwahanol sefydliadau cyhoeddus ar hyd a lled y wlad yn cymryd rhan yn yr ymgyrch.

Hon yw'r flwyddyn gyntaf i'r diwrnod gael ei gynnal ac mae adnodd addysg newydd wedi ei greu i ysgolion cynradd er mwyn dysgu plant am eu hawliau i ddefnyddio'r iaith.

Nod yr adnodd yw bod disgyblion ar draws Cymru'n adnabod y cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith yn eu hardal nhw.

'Ceisio cynyddu defnydd'

Dywedodd Mr Roberts: "Ers tair blynedd mae sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru'n gweithredu safonau'r Gymraeg, ac mae'r rhain yn creu hawliau i bobl dderbyn gwasanaethau Cymraeg wrth ddelio 芒 nhw.

"Ond, wrth holi pobl am y cyfleoedd hyn, er bod pobl yn ymwybodol fod ganddynt hawliau, doedden nhw'n aml ddim yn gwybod beth yn union oedd yr hawliau hyn na gyda phwy y gallent eu defnyddio.

"Nod y diwrnod yma, felly, ydy codi ymwybyddiaeth o wasanaethau Cymraeg a cheisio cynyddu defnydd ohonynt.

"Lle bynnag yng Nghymru mae rhywun yn byw, mae yna hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg, a dyna neges y Diwrnod Hawliau."