Euro 2020: Cymru i herio'r Swistir, Twrci a'r Eidal

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dyma'r eildro mewn pedair blynedd i Gymru gyrraedd Pencampwriaethau Ewrop

Bydd Cymru yn wynebu'r Swistir, Twrci a'r Eidal yn Euro 2020, gyda gemau gr诺p A yn cael eu cynnal yn Baku a Rhufain.

Y Swistir fydd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru yn Baku ar ddydd Sadwrn, 13 Mehefin.

Yna fe fyddan nhw'n wynebu Twrci, hefyd yn Baku ar ddydd Mercher, 17 Mehefin.

Bydd eu g锚m olaf yn Gr诺p A yn Rhufain yn erbyn yr Eidal ar ddydd Sul 21 Mehefin.

Cafodd y grwpiau terfynol eu dewis mewn seremoni yn Bucharest brynhawn Sadwrn.

Disgrifiad o'r fideo, Carl Roberts gohebydd Chwaraeon 91热爆 Cymru yn Bucharest

Llwyddodd t卯m Ryan Giggs i sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth ar 么l trechu Hwngari o 2-0 yn eu g锚m ragbrofol olaf yn gynharach yn y mis.

Bydd y gystadleuaeth rhwng 12 Mehefin a 12 Gorffennaf yn cynnwys 24 o dimau, wedi'u rhannu yn chwe gr诺p o bedwar - yr un drefn ac y cafwyd yn Euro 2016.

Dywedodd Giggs y bydd y gemau yn rhai anodd.

"Mae'r Swistir yn d卯m da, yn d卯m talentog, ac fe ddaeth Twrci drwodd mewn gr诺p oedd yn cynnwys Ffrainc a Gwlad yr I芒 a gwneud yn dda," meddai.

"A bydd Yr Eidal yn Rhufain yn amlwg yn g锚m hynod o galed."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Ryan Giggs wedi ennill wyth o'i 18 g锚m wrth y llyw gyda Chymru

Dywedodd y cyn-chwaraewr rhyngwladol Owain Tudur Jones wrth 91热爆 Cymru Fyw ei fod yn fodlon iawn gyda'r gr诺p.

"Heb feddwl gormod am y peth, rhaid i mi gyfaddef bod yna wen ar fy wyneb pan ddaeth enw Cymru allan," meddai.

"Mi fyddai'r opsiwn arall, Gr诺p B, wedi bod yn anodd - roedd hwnna yn fy nychryn mymryn, dwy g锚m i ffwrdd yn erbyn Denmarc a Rwsia, a hefyd Gwlad Belg - er gwaetha' ein record yn eu herbyn."

Ychwanegodd y bydd chwarae dwy g锚m yn Baku yn fantais i'r t卯m a'r cefnogwyr.

"Mae'r gemau cyntaf, y ddwy yn Baku ac yn syth ar 么l ei gilydd," meddai.

"Gemau yn erbyn Y Swistir a Twrci, gemau caled wrth sgwrs.

"Ond mae'n golygu fod Cymru yn gallu paratoi i gael base yn Baku am y cyfnod agoriadol, ac mae hynny'n enfawr."

Ar 么l y gemau gr诺p

Mae 20 o'r timau fydd yn cystadlu yn Euro 2020 eisoes wedi'u cadarnhau, a bydd pedwar arall yn ymuno 芒 nhw yn dilyn y gemau ail gyfle ym mis Mawrth.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chwarae ar draws 12 dinas wahanol yn Ewrop, gyda'r gwledydd hynny yn cael mantais gartref yn y gemau gr诺p os ydyn nhw wedi cyrraedd.

Bydd y ddau d卯m uchaf ym mhob gr诺p, yn ogystal 芒 phedwar o'r timau sy'n gorffen yn drydydd, yn mynd drwyddo i rownd yr 16 olaf.

Mae ffeinal a rownd gynderfynol Euro 2020 yn cael eu chwarae yn Wembley, Llundain, ac mae dinasoedd Glasgow a Dulyn hefyd ymhlith y dwsin sydd yn cynnal rhai o gemau'r gystadleuaeth.