Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Carchar Caerdydd yn fwy diogel nag y bu, medd archwilydd
Mae Carchar Caerdydd yn gwrthbrofi'r ystrydeb fod carchardai Fictoriaidd mewn dinasoedd yn "llefydd brwnt a threisgar" yn 么l prif archwilydd carchardai'r DU.
Mae'r carchar hefyd wedi mynd yn groes i'r patrwm o drais cynyddol mewn carchardai, ac mae nawr yn fwy diogel nag yr oedd dair blynedd yn 么l.
Ond fe wnaeth Peter Clarke rybuddio am y ffigwr "uchel iawn" o 47% o'r carcharorion yn mynd yn ddigartref wrth gael eu rhyddhau.
Galwodd ar Lywodraeth Cymru a gwasanaethau prawf a charchardai i weithio gyda'i gilydd i ddatrys y broblem.
Mae dros 200 o garcharorion y mis yn cael eu rhyddhau o Garchar Caerdydd, ond does gan bron hanner ohonyn nhw ddim cartref i fynd iddo, ac mae hyn yn tanseilio ymdrechion i'w hailsefydlu.
Dywedodd Mr Clarke: "Mae'r cysylltiad rhwng digartrefedd yn yr amgylchiadau yma ac aildroseddu yn wybyddus iawn. Mae'n amlwg ei fod y tu hwnt i'r gwasanaeth carchardai i ddelio gyda hyn ar ei ben ei hun.
"Rwyf felly yn argymell - ac mae hyn yn anarferol - y dylai Gwasanaeth Carchardai EM, y Gwasanaeth Prawf a Llywodraeth Cymru weithio gyda'i gilydd er mwyn canfod datrysiad i'r broblem ddifrifol yma."
Roedd ei adroddiad yn nodi ambell broblem arall:
- Roedd lefel hunan-niweidio deirgwaith yn uwch nag adeg yr archwiliad blaenorol;
- Cafodd y cwmni prawf ac ailsefydlu ei feirniadu am beidio dilyn achosion carcharorion yn ddigonol;
- Roedd 44% o'r carcharorion yn dweud eu bod ag anabledd a 65% gyda phroblem iechyd meddwl, ac mae angen ystyried eu hymatebion negyddol i'r arolwg.
Ond ar yr ochr bositif, fe ddywedodd yr archwilwyr fod:
- Ychydig o garcharorion oedd wedi'u cloi yn eu celloedd yn ystod y dydd ac roedd llawer mewn gweithgareddau pwrpasol;
- Dim ond 44% o'r carcharorion oedd ddim yn teimlo'n ddiogel, o gymharu 芒 61% mewn carchardai lleol eraill;
- Roedd lefel y trais yn gymharol isel. Bu 129 o ddigwyddiadau treisgar yn y carchar yn y chwe mis blaenorol o gymharu 芒 139 yn archwiliad blaenorol 2016. Mae ffigyrau diweddara holl garchardai Cymru a Lloegr yn dangos naid o 40% mewn digwyddiadau treisgar dros yr un cyfnod;
- Nid yw carcharorion mewn cymaint o berygl o gamddefnyddio sylweddau, ac mae mesurau effeithiol i leihau cyflenwi cyffuriau mewn lle.
"Mae Carchar Caerdydd yn gwrthbrofi'r ystrydeb fod carchardai Fictoraidd yng nghanol dinasoedd yn llefydd brwnt a threisgar," meddai Mr Clarke.
"Roedd hi'n galondid mawr gweld y gwelliannau ers yr archwiliad diwethaf, ac yn dangos y gwaith caled sydd wedi arwain at hynny.
"Yn hollbwysig, roedd y carchar yn gymharol ddiogel.
"Mae'n glod mawr i Gaerdydd mewn cyfnod lle mae ffigyrau trais carchardai yn gyffredinol wedi codi ar lefel bryderus, maen nhw wedi llwyddo i fynd yn groes i hynny."
"Perthynas wych" rhwng staff a charcharorion sy'n gyfrifol am lawer o'r gwelliant, ac mae amodau byw yno wedi gwella hefyd.
Er bod cyffuriau yn parhau'n broblem, mae nifer y profion positif wedi lleihau, ond dywedodd yr adroddiad bod absenoldeb sganiwr corff yn "fwlch yn yr amddiffyn".
Dywed y Weinyddiaeth Gyfiawnder y bydd saith o garchardai, gan gynnwys Carchar y Berwyn yn Wrecsam, yn cael sganiwr fel rhan o fuddsoddiad o 拢100m mewn diogelwch carchardai.
Dywedodd llefarydd bod "digon o'r gyllideb yna ar 么l," ond gwrthododd gadarnhau y byddai Carchar Caerdydd yn sicr yn cael un.
Dywedodd Amy Rees, cyfarwyddwr cyffredinol y gwasanaeth prawf i Gymru gyda Gwasanaeth Carchardai Ei Mawrhydi: "Mae'r carchar mewn lle llawer gwell nag yr oedd ychydig flynyddoedd yn 么l - mae'r berthynas rhwng staff a throseddwyr yn well, mae yna waith da i atal cyffuriau ac mae cyflwyno cynllun gweithwyr allweddol wedi helpu i leihau trais.
"Mae'r carchar wedi cyhoeddi strategaeth newydd i leihau faint o'r carcharorion sy'n hunan-niweidio, ac mae'r gwasanaeth carchardai yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i ateb y broblem i ddigartrefedd i bobl sy'n cael eu rhyddhau."