Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dymchwel achos: 'Annhebygol' bod aelodau ddim yn gwybod
Mae cyn-ymgeisydd seneddol Ceidwadol wedi dweud ei fod yn "annhebygol iawn" bod aelodau blaenllaw o'r blaid ddim yn ymwybodol o r么l Ross England mewn achos llys gafodd ei ddymchwel.
Dywedodd Luke Evett, sydd bellach ddim yn aelod o'r Blaid Geidwadol: "O fy mhrofiad i o reolaeth y blaid, dwi'n meddwl ei fod yn annhebygol iawn nad oedd y triumvirate o Byron [Davies], Craig [Williams] ac Alun [Cairns] yn gwybod am weithredoedd Ross."
Ychwanegodd: "Os nad oedden nhw [yn gwybod], yna maen nhw'n anghymwys. Os oedden nhw'n gwybod, rhaid derbyn y canlyniadau."
Mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Byron Davies, Cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig a Craig Williams, cyn-AS Ceidwadol, wedi gwadu gwybod unrhyw beth am y modd y gwnaeth yr achos treisio ddymchwel.
'Cwbl anymwybodol'
Cafodd Mr England ei wahardd o'r blaid ar 么l iddi ddod i'r amlwg bod achos llys treisio wedi dymchwel yn dilyn honiadau y gwnaeth am y dioddefwr.
Dywedodd y barnwr yn yr achos bod Mr England "yn fwriadol ac ar ben eich hun" wedi dymchwel yr achos.
Roedd y dioddefwr yn gyn-aelod staff o swyddfa etholaethol Alun Cairns.
Cafwyd y diffynnydd, James Hackett, yn euog yn dilyn ail achos.
Mae ffynonellau pellach wedi dweud wrth 91热爆 Cymru bod Mr Cairns wedi cael gwybod am yr hyn ddigwyddodd yn yr achos llys cyn i Mr England gael ei ddewis fel ymgeisydd.
Mae Mr Evett, wnaeth ymgeisio yng Ngheredigion, wedi dweud bod y "niwed i enw da'r blaid, ar yr amser gwaethaf posib, yn arwyddocaol".
Ddydd Iau, tridiau wedi i'r 91热爆 adrodd y stori, dywedodd Mr Davies y gallai ddweud "yn bendant" ei fod ef a Mr Cairns yn "gwbl anymwybodol o fanylion yr achos nes iddynt ddod yn gyhoeddus yr wythnos hon".
Ar raglen Wales Live ddydd Mercher, dywedodd Mr Williams, sydd wedi gweithio ym mhencadlys y Ceidwadwyr, nad oedd yn gwybod am yr achos nes i'r stori gael ei hadrodd yn y wasg.
Pamffledi etholiad
Mae'r 91热爆 hefyd wedi cael gwybod bod Mr England yn rheolwr ymgyrch i Mr Cairns nes iddo gael ei wahardd yr wythnos hon.
Cafodd pamffledi yn hyrwyddo Mr Cairns, oedd ag enw Mr England arnyn nhw, eu dosbarthu i gartrefi ym Mro Morgannwg ddydd Iau.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig: "Cafodd y pamffledi eu printio a'u cynhyrchu cyn i fanylion yr achos ddod i'r amlwg.
"Mae'r pamffledi bellach wedi eu tynnu'n 么l."