Ateb y Galw: Fay Jones, cyfarwyddwr Grayling Wales

Ffynhonnell y llun, Fay Jones

Fay Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddi gael ei henwebu gan Chisomo Phiri yr wythnos diwethaf.

Fay yw cyfarwyddwr Grayling Wales, cwmni cyfathrebu rhyngwladol wedi ei leoli yng Nghymru. Mae hi hefyd yn ymgeisydd seneddol i'r Blaid Geidwadol dros Frycheiniog a Sir Faesyfed.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Bod yn y meithrin a sylwi fod fy ffrind gorau David yn 么l yn yr ysgol ar 么l bod yn s芒l. Ro'n i wrth fy modd yn ei weld e eto!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Hugh Grant. A dwi dal yn dwlu arno fe.

Ffynhonnell y llun, Catherine McGann

Disgrifiad o'r llun, Hugh Grant ddechrau'r 90au, gyda'i wallt fflopi nodweddiadol

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mynd yn sownd wrth geisio dod mas o Mini Cooper pan o'n i'n fy arddegau. O'n i 'chydig mwy bryd hynny...

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Tua wythnos a hanner yn 么l pan 'nes i lawer o benderfyniadau anghywir a chyrraedd rhywle yn hwyr iawn, stressed iawn, a mas o boced gyda scratch mawr ar fy nghar annwyl.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Gor-feddwl.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Storey Arms yn y Bannau Brycheiniog. Mae'r golygfeydd yn anhygoel - hyd yn oed o'r A470.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Pan es i i Twickenham i wylio Cymru yn cicio Lloegr mas o Gwpan Rygbi'r Byd (eu hunain) yn 2015. Moment 'o'n i yno' gorau fy mywyd.

Ffynhonnell y llun, Paul Gilham

Disgrifiad o'r llun, Cael a chael oedd hi, ond diolch i gais hwyr gwych Gareth Davies, a throsiad Dan Biggar, canlyniad y g锚m oedd 28-25 i Gymru

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Penderfynol, caredig, optimist.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Hoff lyfr: The Great Gatsby

Hoff ffilm: Gosford Park

O archif Ateb y Galw:

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Freddie Mercury

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Alla i enwi holl Arlywyddion yr Unol Daleithiau (er ddim yn eu trefn). Dwi'n ei wneud o leiaf unwaith yr wythnos er mwyn gwneud yn si诺r fod fy nghof i ddim yn pallu (dwi'n aml ddim yn cofio be' 'nes i dri munud yn 么l...).

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cerdded lan Pen y Fan gyda fy holl gang o ffrindiau a'n nheulu. Gwylio Cymru yn chwarae rygbi. Bwyta fy hoff bryd o fwyd, sef coes cig oen a thatws dauphinoise. Eistedd ger y t芒n ac yfed galwyni o win coch tra'n chwarae Trivial Pursuit.

Disgrifiad o'r llun, Pen y Fan - un o hoff leoedd Fay (beth bynnag y tywydd?!)

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Farewell to Stromness gan Syr Peter Maxwell Davies. Dyw hi ddim yn g芒n ond yn ddarn o gerddoriaeth i'r piano. 'Nes i ei ddarganfod pan o'n i ar fin symud dramor, i ffwrdd o bawb o'n i'n eu 'nabod. O'n i wir ofn, ond roedd yna obaith a dewrder yn y cerddoriaeth, a dwi dal yn ei garu.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf: Eog wedi'i fygu ar fara brown posh a menyn hallt.

Prif gwrs: Beef Wellington fy mam (neu'r goes cig oen, ond dim ond os mai fi sydd wedi ei goginio).

Pwdin: Sticky toffee pudding fy mam.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Kourtney Kardashian.