Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cymru a'r Alban angen 'rhagor o amser i graffu ar Brexit'
Mae angen rhagor o amser i ganiat谩u i seneddau Cymru a'r Alban graffu ar gytundeb Brexit Boris Johnson yn iawn, yn 么l prif weinidogion y ddwy wlad.
Bydd rhaid i'r ddwy senedd bleidleisio ar ddeddf i weithredu'r cytundeb - ac yn 么l Mark Drakeford a Nicola Sturgeon, nid yw 10 diwrnod yn ddigonol i ystyried y mater.
Mae Mr Johnson eisoes wedi anfon llythyr heb ei arwyddo i Frwsel yn gofyn am estyniad pellach.
Ond mae wedi anfon llythyr arall yn dweud mai camgymeriad fyddai hynny.
Fe gafodd Mr Johnson ei orfodi i ofyn am estyniad ar 么l i ASau bleidleisio i oedi'r bleidlais ar Brexit nes bod y ddeddfwriaeth wedi pasio.
Fe wnaeth Llefarydd y T欧 Cyffredin, John Bercow wrthod a chaniatau pleidlais ar y cytundeb Brexit yn Nh欧'r Cyffredin dydd Llun, gan nad oedd dim wedi newid ers y ddadl ddydd Sadwrn.
Fe wnaeth Mr Drakeford a Ms Sturgeon anfon y cais mewn llythyr i Lywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk a chopi i Mr Johnson.
Yn y llythyr maen nhw'n dweud: "Rydym yn rhannu'r farn sydd y tu 么l i'r gwelliant gafodd ei basio yn Nh欧'r Cyffredin nad oes digon o amser i graffu ar y cytundeb rhwng nawr a 31 Hydref."
Maen nhw'n dweud hefyd nad oes digon o amser i ACau ac Aelodau Senedd Yr Alban "gyflawni eu cyfrifoldebau cyfansoddiadol" cyn diwrnod Brexit ar 31 Hydref.
Maen nhw'n erfyn ar Mr Johnson i gydymffurfio "yn llawn ac mewn ewyllys da" gyda Deddf Benn, wnaeth ei orfodi i ofyn am yr estyniad.
Mae'r ddau hefyd wedi gofyn i Mr Tusk am estyniad fyddai'n ddigon hir i allu cynnal refferendwm arall, os byddai'n cael s锚l bendith gan weddill y gwledydd sy'n rhan o'r UE.
"Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddatgan ein diolch am eich ymdrechion parhaus i sicrhau nad yw'r opsiwn o'r DU i aros o fewn yr UE yn cael ei gau i ffwrdd," meddai'r llythyr i Mr Tusk.