Brexit: Rhaid gofyn am estyniad, medd Mark Drakeford

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud bod rhaid i Boris Johnson "ufuddhau i'r gyfraith" a gofyn am estyniad i osgoi Brexit heb gytundeb.

Pleidleisiodd ASau o blaid gwelliant i gytundeb Brexit Mr Johnson yn galw am oedi'r broses unwaith eto.

Cafodd gwelliant Oliver Letwin, oedd yn datgan nad yw TÅ·'r Cyffredin yn mynd i gymeradwyo'r cytundeb cyn pasio deddfwriaeth sy'n gysylltiedig, ei basio o 322 i 306.

Mae'n golygu ei fod yn ofynnol i Mr Johnson ofyn am estyniad dan gyfraith Benn, er iddo ddweud brynhawn Sadwrn nad oedd yn fodlon trafod estyniad gyda'r UE.

Mae hefyd yn golygu na fydd pleidlais ar y cytundeb Brexit yn ddiweddarach, ar ôl i'r llywodraeth dynnu'n ôl.

Mae disgwyl pleidlais arall ar y cytundeb ddydd Llun.

'Colli cyfle'

Wrth ymateb i'r bleidlais dywedodd Mr Johnson fod y "cyfle i gael pleidlais ystyrlon wedi'i golli".

Ychwanegodd nad oedd wedi synnu na'i ddigalonni bod ASau wedi cefnogi gwelliant Letwin ac na fyddai'n trafod oedi gyda'r UE.

Dywedodd y byddai'n parhau'n "ddi-ofn" gyda'i strategaeth Brexit.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Ond dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, bod yn rhaid i Mr Johnson "ufuddhau i'r gyfraith" a gofyn am estyniad er mwyn osgoi gadael heb gytundeb.

Ychwanegodd bod y "cytundeb yma yn un gwael i Gymru - ein heconomi a'n swyddi".

"Rhaid gwella y cytundeb gadael fel bod modd i'r mater fynd yn ôl at y bobl trwy refferendwm."

Disgrifiad o'r fideo, Yn õl David Davies, AC Mynwy, mae'r canlyniad yn siom i'r rhai a bleidleisiodd dros Brexit yn 2016

Wedi'r bleidlais dywedodd AS Ceidwadol Mynwy, David Davies, bod canlyniad y bleidlais yn "siom" i'r 17.4m o bobl wnaeth bleidleisio dros Brexit yn 2016.

Dywedodd bod cyfle i "ddatrys" Brexit wedi ei fethu ddydd Sadwrn, ac yn hytrach byddai'n golygu "mwy o oedi".

'Amser i ddadansoddi'

Dywedodd Stephen Kinnock, AS Llafur Aberafan, bod "pasio gwelliant Letwin yn golygu bod y Senedd wedi gwneud pob dim posib i gael gwared ag ymadael heb gytundeb, sef y trap yr oedd y llywodraeth wedi'i osod".

"Mae'r canlyniad yn golygu bod gan ASau amser a gofod i ddadansoddi'r Cytundeb Ymadael yn llawn.

Disgrifiad o'r fideo, "Rhaid i Boris Johnson barchu'r gyfraith," medd Liz Saville Roberts

"Mae amser nawr i gael trafodaeth lawn a chraffu ar gytundeb Johnson."

Dywedodd arweinydd seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, bod y Senedd "wedi cymryd safbwynt cryf yn erbyn cytundeb trychinebus Boris Johnson".

"Mae'n rhaid iddo rŵan barchu'r gyfraith a gofyn am estyniad fel y gallwn ni roi'r cwestiwn yn ôl i'r bobl."

Wrth siarad ar raglen arbennig ar Radio Cymru dywedodd Jonathan Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin: "Fi'n credu bod ASau ddim yn ymddiried yng ngair y prif weinidog - bydd rhaid nawr i Lywodraeth Prydain amlinellu ei hamcanion mewn deddfwriaeth - mae heddiw yn gyfle i ASau graffu cyn roi sêl bendith.

"Ai Hydref 31 yw'r peth pwysicaf yn y byd neu sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cael ei scrwtineiddio?

"Bydd y penderfyniadau mawr yn cael eu gwneud yn ail ran o'r broses - yr adeg honno bydd amaeth a'r economi yn cael eu trafod."

Wrth i welliant Letwin gael ei basio roedd bonllefau o gymeradwyaeth y tu allan i San Steffan gan ddegau o botestwyr, pobl o Gymru yn eu plith, sydd wedi teithio i Lundain i alw am refferendwm arall.

'Estyniad pellach?'

Dywedodd y bargyfreithiwr Gwion Lewis wrth 91Èȱ¬ Cymru, "nad yw Brexit yn debygol o ddigwydd ar Calan Gaeaf".

Ychwanegodd: "Da ni'n mynd ar ein pennau yn ôl i'r llys yn hyn o beth.

"Prif arwyddocâd heddiw yw creu amser i brosesau seneddol graffu ar yr hyn sy'n cael ei gynnig a dwi'n sicr y bydd nifer o welliannau yn cael eu cynnig

"Yn anochel bydd estyniad pellach."