Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
TÅ·'r Cyffredin i bleidleisio ar gytundeb Brexit newydd
Mae ASau Cymreig yn cael eu hannog i gefnogi cytundeb Brexit y Prif Weinidog, ynghanol ansicrwydd a fydd pleidlais arno yn digwydd.
Mae TÅ·'r Cyffredin yn eistedd ar ddydd Sadwrn am y tro cyntaf ers 37 mlynedd, ac mae disgwyl i'r mwyafrif o ASau Cymru wrthod cytundeb Brexit Boris Johnson.
Dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, bod y cytundeb yn "dda i'r wlad" ar ôl i Mr Johnson ddweud mai "dyma'r foment" i ddod i gytundeb ar Brexit.
Ond bydd ASau'n trafod cynnig fyddai'n oedi Brexit eto, tan fod yr holl ddeddfwriaeth o gwmpas y cytundeb ymadael yn cael ei basio.
Fe wnaeth Llefarydd TÅ·'r Cyffredin ddewis gwelliant Oliver Letwin - sy'n galw ar y Prif Weinidog i ofyn am oedi Brexit am dri mis.
Petai'r gwelliant yn cael ei basio, mae'r llywodraeth wedi dweud y bydd yn canslo'r bleidlais ar y cytundeb Brexit.
Mae disgwyl i'r mwyafrif llethol, os nad pob un, o'r 28 AS Llafur o Gymru bleidleisio yn ei erbyn.
Bydd pedwar AS Plaid Cymru, yr un Democrat Rhyddfrydol, Jane Dodds, a'r AS annibynnol, Guto Bebb, hefyd yn pleidleisio yn erbyn.
Ond mae disgwyl i bob un o'r chwech AS Ceidwadol yng Nghymru bleidleisio o blaid y cytundeb, wedi i David Jones ddatgan ei gefnogaeth fore Sadwrn.
'Gwaeth na chytundeb May'
Yn agor y sesiwn fore Sadwrn, dywedodd Mr Johnson mai "dyma'r foment" i DÅ·'r Cyffredin ddod i gytundeb ar Brexit, a'i fod yn amser i "symud ymlaen ac adeiladu perthynas newydd" gydag Ewrop.
Ond yn ôl Arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, mae'r cytundeb newydd "hyd yn oed yn waeth" na chytundeb Theresa May, ac yn peryglu swyddi, y Gwasanaeth Iechyd a'r amgylchedd.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
Cyn y sesiwn, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns bod y cytundeb yn "ddêl dda iawn i Gymru ac i'r Deyrnas Unedig gyfan".
"Rwy'n credu bod y cytundeb yma'n ateb galwadau'r cyhoedd, ateb gofynion busnes ac yn ateb y cyffro sydd ynglŷn â'r cyfleoedd fydd yn dod o adael yr UE," meddai.
Dywedodd llefarydd y Blaid Lafur dros Gymru, Christina Rees bod cytundeb Mr Johnson "hyd yn oed yn waeth" na chytundeb Mrs May, tra bod AS Llafur Gorllewin Caerdydd Kevin Brennan yn galw ar y llywodraeth i fod â'r "dewrder" i roi'r cytundeb yn ôl i'r cyhoedd bleidleisio arno.
Wrth ymateb i ddatganiad Mr Johnson yn y tÅ·, dywedodd Liz Saville Roberts o Blaid Cymru na fyddai pobl Cymru "fyth yn cael eu gwasanaethu'n dda" gan y llywodraeth hon.
Beth sy'n digwydd ddydd Sadwrn?
Mae TÅ·'r Cyffredin yn cyfarfod ar ddydd Sadwrn am y tro cyntaf ers 1982 i drafod cytundeb Brexit Boris Johnson.
Mr Johnson wnaeth ddechrau'r sesiwn, ac mae ASau yn ei groesholi am y cytundeb gyda'r UE.
Yna bydd ASau'n pleidleisio ar gynnig y llywodraeth, a'r gwelliannau sydd wedi eu dewis gan Lefarydd y Tŷ, y gred yw ar ôl 14:30.
Un o'r gwelliannau sydd wedi ei dderbyn ydy un Syr Oliver Letwin. Mae'n golygu oedi ar gymeradwyo'r cytundeb tan ar ôl i Mr Johnson sicrhau estyniad i gyfnod Brexit.
Y bwriad ydy atal un ffordd bosib o adael yr UE heb gytundeb, ac mae gwleidyddion o sawl plaid yn ei gefnogi.
Mewn datblygiad fore Sadwrn, fe wnaeth Llywodraeth y DU awgrymu y byddai'n canslo'r prif bleidlais ar y cytundeb os yw gwelliant Letwin yn pasio.
Mae'r 91Èȱ¬ yn deall bod y llywodraeth yn bwriadu cynnal pleidlais ar y Mesur Ymadael ddydd Mawrth, os ydy gwelliant Letwin yn cael ei basio.
Os ydy ASau'n cefnogi'r cytundeb, mae'r DU gam yn nes at adael yr UE ar 31 Hydref, ond os ddim mae'n golygu bod cyfraith yn galw ar y prif weinidog i ofyn am estyniad i gyfnod Brexit.
Beth mae'r cytundeb newydd yn ei olygu?
Dadansoddiad Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig 91Èȱ¬ Cymru:
Y newid sylweddol yn fan hyn fi'n meddwl yw nid cymaint y telerau gadael eu hunain, ond y cyfeiriad, yr ensyniad sydd yn y cytundeb hwnnw a'r datganiad gwleidyddol, bod y berthynas mae Boris Johnson yn chwennych gyda'r Undeb Ewropeaidd yn wahanol iawn, iawn i'r hyn roedd Mrs May yn chwennych.
Mi oedd 'na lawer o sôn yng nghytundeb Mrs May am y level playing field. Wel, mae hwnna wedi symud o'r cytundeb gadael - mae dal yn bodoli, ond mae yn y datganiad gwleidyddol - dogfen sy'n llawer gwannach o safbwynt clymu dwylo pobl.
Mae'n amlwg bod cyfeiriad Boris Johnson yn mynd am Brexit llawer iawn caletach, ac o'dd Brexit Theresa May yn eitha' caled, ond mae Brexit Boris Johnson hyd yn oed yn galetach.
Sut all ASau Cymru bleidleisio?
Ceidwadwyr Cymreig
Mae'r rhan fwyaf o Geidwadwyr Cymreig yn San Steffan wedi bod yn ffyddlon drwy broses Brexit, gyda'r mwyafrif yn cefnogi cytundeb Theresa May.
Roedd ansicrwydd ynghylch AS Gorllewin Clwyd, David Jones - oedd yn gwrthwynebu cytundeb Mrs May yn gryf.
Ond bore Sadwrn mae'r aelod llafar dros Brexit wedi dweud y bydd yn cefnogi cytundeb Mr Johnson.
Llafur Cymru
Byddai'n sioc petai unrhyw un o'r ASau Llafur yn cefnogi'r cytundeb ddydd Sadwrn, oni bai am un - Stephen Kinnock.
Nid yw AS Aberafan am weld pleidlais bellach ac mae am i'r DU gael cytundeb gyda'r UE. Ni wnaeth ateb cais gan 91Èȱ¬ Cymru am sylw ar sut y byddai'n pleidleisio.
Plaid Cymru
Mae pedwar AS Plaid Cymru'n gwrthwynebu Brexit, ac mae pob un yn bwriadu pleidleisio yn erbyn y cytundeb.
Eraill
Jane Dodds ydy unig AS y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, a dydy hi ddim yn debygol o gefnogi Mr Johnson yn y bleidlais - nid yw'n cefnogi Brexit.
Mae hynny'n gadael Guto Bebb. Collodd AS Aberconwy chwip y Ceidwadwyr am gefnogi ymgais y gwrthbleidiau i gymryd rheolaeth o'r amserlen Seneddol.
Dywedodd Mr Bebb wrth 91Èȱ¬ Cymru y byddai'n pleidleisio dros y cytundeb, ar yr amod bod refferendwm arall yn cael ei gynnig i'r cyhoedd.