Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Hyfforddi carcharorion i ateb galwadau yn 'werth chweil'
Mae carcharorion ledled Cymru yn cael eu talu i weithio mewn canolfannau galwadau mewn ymgais i'w helpu i sicrhau swyddi ar 么l cael eu rhyddhau.
Nid oes gan unrhyw un o'r carcharorion yng Nghaerdydd, Abertawe na'r Berwyn fynediad at ddata personol, a bydd pob un yn cael ei fetio'n llym, meddai trefnwyr y cynllun.
Y gobaith yw ennill y sgiliau sydd eu hangen i gael swydd a lleihau cyfraddau troseddu.
Mae tua 17 desg canolfan alwadau yng Nghaerdydd, gyda 24 yng Ngharchar Abertawe ac mae gan Garchar Berwyn 140.
Mae mwy o gwmn茂au'n cael eu hannog i weithio gyda'r gwasanaeth carchardai ac mewn digwyddiad diweddar yng Nghaerdydd, cafodd cynrychiolwyr o ganolfannau cyswllt wahoddiad i weld carcharorion yn gweithio yn y carchar.
Yn 么l Greg Fisher, sy'n frocer cyflogaeth rhanbarthol gyda'r Gwasanaeth Carchardai yng Nghymru, mae creu partneriaethau rhwng cwmn茂au a charcharorion i'w paratoi ar gyfer gwaith yn bwysig.
"Mae'n creu cysylltiad gyda'r gymuned a chyflogwyr lleol, achos os nad oes ganddyn nhw hynny fe fyddan nhw'n mynd yn 么l i fywyd troseddol," meddai.
Buddsoddiad 'gwerth chweil'
Mae Carchar Caerdydd yn hyfforddi carcharorion gan roi sgiliau fel cynnal a chadw ceir a beiciau, glanhau, adeiladu, ac yn fwy diweddar sgiliau barista iddyn nhw.
Mae hefyd rhaglen i hyfforddi carcharorion i weithio ar y rheilffyrdd gan fod traciau o fewn waliau'r carchar.
"Rydyn ni'n ceisio eu cael ar y llwybr hwnnw i gyflogaeth, i mewn i waith ystyrlon sy'n talu'n dda iawn," meddai Mr Fisher, gan ychwanegu bod rhaglen hyfforddi gwerth 拢2,500 yn llawer llai na'r gost flynyddol o'u cadw yn y carchar, sef 拢32,000.
"Rwy'n credu bod y buddsoddiad bach hwnnw'n werth chweil."
Ar 么l cael eu hyfforddi, fe all carcharor ennill 拢15 yr wythnos yn gwneud y galwadau, ynghyd ag 20c am bob holiadur wedi'i gwblhau, a mwy fyth os yw'r cwsmer yn hapus i gael ei drosglwyddo i drafod darparwyr newydd.
Mae Nicola, un o weithwyr menter gymdeithasol i'r enw Census Life, yn gyn-droseddwr a dywedodd bod swydd gyda chyflogwr cefnogol yn golygu iddi dorri'r cylch troseddu.
"Fy neges i i gyflogwyr ydy cymerwch y cyfle hwn," meddai.
"Rydych chi'n creu newid o fewn cymdeithas, mae gennych chi'r offer i newid bywyd rhywun a byddwch chi'n creu cydweithiwr ffyddlon iawn."
Er lles y teulu
Kelly Carrel ydy sylfaenydd y fenter, sy'n rhedeg y canolfannau galw mewn 14 o garchardai yng Nghymru a Lloegr, a dywedodd fod y cyn-droseddwyr y mae hi bellach yn eu cyflogi ymhlith y rhai mwyaf ffyddlon a gweithgar y mae hi wedi ymgymryd 芒 nhw.
"Mae'r unigolion hynny wir eisiau gweithio a gwneud newidiadau cadarnhaol i'w bywydau - nid yn unig iddyn nhw, ond i'w partneriaid a'u plant," ychwanegodd.
"Yn gyffredinol mae yna ormod o sefydliadau sydd 芒 blanced 'na' i weithio gyda throseddwr, gallaf ei ddeall mewn rolau penodol.
"Ond mae yna rai pobl wych, dalentog nad ydyn ni'n manteisio arnyn nhw."