Cyngor Sir G芒r yn lansio strategaeth adfywio gwledig

  • Awdur, Iola Wyn
  • Swydd, Gohebydd 91热爆 Cymru

Cryfhau cymunedau, creu swyddi a chyfleoedd busnes, a diogelu'r Gymraeg - dyna uchelgais Cyngor Sir G芒r wrth lansio eu strategaeth adfywio gwledig.

Mae dros 60% o boblogaeth y sir yn byw mewn ardaloedd gwledig, a bwrdd gweithredol y cyngor oedd y cyntaf i greu portffolio penodol i gynrychioli materion gwledig.

Cafodd y strategaeth ei chyhoeddi fore Mawrth yng Nghastell Newydd Emlyn.

Mae'r ddogfen Symud Sir G芒r Wledig Ymlaen yn canolbwyntio ar nifer o them芒u:

  • Gwariant yn yr economi leol;
  • Tai a Chynllunio;
  • Bywyd Cymunedol;
  • Seilwaith Band Eang;
  • Trafnidiaeth, Y Gymraeg ac Amaethyddiaeth.

Dywedodd y cynghorydd Cefin Campbell, aelod o'r bwrdd gweithredol dros faterion gwledig, fod pwyslais ar greu swyddi a chyfleoedd busnes er mwyn i bobl ifanc aros ac ymgartrefu yn Sir Gaerfyrddin.

Yn 么l y cyngor, mae tua 1,000 o bobl ifanc yn gadael y sir bob blwyddyn ar hyn o bryd, a'r gobaith yw eu denu'n 么l, gyda chymhellion i'w cynorthwyo i sefydlu busnesau i gynnal eu hunain a'r economi leol.

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Dr Angharad Wyn ddechrau ei gyrfa fel meddyg teulu yng Nghaerdydd

Mae'r Dr Angharad Wyn yn feddyg teulu o dan hyfforddiant, ac wedi dychwelyd i Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar gyda'i theulu ifanc, ar 么l iddi hyfforddi a dechrau ei gyrfa yng Nghaerdydd.

"Fel meddyg teulu dan hyfforddiant, fues i'n lwcus iawn. O'dd y broses mor syml, mor rhwydd a phawb mor groesawgar, yn barod i helpu a galluogi hynny i ddigwydd. "

Mae'r ffaith ei bod hi'n medru'r Gymraeg yn hanfodol bwysig, yn 么l Dr Wyn: "Yn barod, trwy weithio yn Sancl锚r nawr, mae gymaint o bobl yn dod i mewn sy'n teimlo rhyddhad o allu siarad Cymraeg, a dwi'n teimlo'n falch iawn i fod yn un o'r rheiny sy'n gallu cyfrannu a gwneud y broses honno'n haws iddyn nhw "

'Cyfleoedd gwaith'

Mae Hannah Richards yn astudio BA Perfformio yng Nghaerdydd ac yn un o'r bobl ifainc sydd wedi gadael Sir G芒r am gyfnod. Dyw hi ddim yn hyderus y byddai gwaith iddi yn ei hardal enedigol.

"Yn anffodus, dwi ddim yn meddwl fod yna ddigon o gyfleoedd gwaith yn Sir G芒r, yn enwedig os chi'n gwneud perfformio neu drama....

"Ma' gan Sir G芒r Yr Egin ond dyw pawb sydd 'efo diddordeb mewn drama a pherfformio, 'den ni i gyd fel pobl ifanc ddim yn mynd i allu gweithio yn Yr Egin - dyw hynny ddim yn mynd i fod yn bosib."

Disgrifiad o'r llun, Mae Hannah Richards yn astudio BA Perfformio yng Nghaerdydd

Mae datblygu trefi cefn gwlad hefyd yn un o flaenoriaethau'r strategaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin sef y Fenter Deg Tref Wledig sy'n ymestyn o Lanymddyfri i Sancl锚r.

Mae sawl tref bellach wedi colli pob un o'i banciau. Ac yn Sancl锚r, mae dwy o brif siopau annibynnol y stryd fawr wedi cau eu drysau yn ddiweddar iawn.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Rhian White yn arfer gweithio ym manc y Midland

Roedd Rhian White yn arfer gweithio ym manc y Midland, pan roedd y dref yn ganolfan fusnes fywiog: "Odd pedwar banc yma bryd hynny, n么l yn y 60au/70au a'r pedwar ar agor bob dydd, trwy'r dydd, ac o'dd mart yma i'r ffermwyr ac odd hi'n dre' brysur iawn, lot o siope bach annibynnol, siope ffrwythe, bara, cig, ac odd hi'n fishi iawn iawn."

Dyw hi ddim yn hyderus fod modd adfywio Sancl锚r: "Bydde hynny'n anodd iawn, bydden i'n meddwl achos mae 'di mynd yn rhy bell.

"Ma' bobl yn mynd i lefydd eraill i siopa, ma' nhw hefyd yn siopa ar-lein. A dros y blynyddoedd, mae jyst 'di dirywio. Mae'n drist iawn."

Yn ystod lansiad Symud Sir G芒r Wledig Ymlaen, yng Nghastell Newydd Emlyn, bydd prif weithredwr yr awdurdod, Wendy Walters, yn manylu am ymrwymiad y cyngor i gydweithio 芒 phartneriaid er mwyn cyflawni'r cynigion i geisio adfywio cymunedau gwledig y sir.