Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Mwy o siaradwyr Cymraeg yn astudio meddygaeth yng Nghaerdydd
Mae chwe gwaith yn fwy o fyfyrwyr yn astudio meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd eleni nag oedd pum mlynedd yn 么l.
Caerdydd ydy'r unig brifysgol i gynnig cwrs meddygaeth israddedig yng Nghymru, gyda 309 o fyfyrwyr yn dechrau'r cwrs bob blwyddyn.
Pan ddechreuodd y Coleg Cymraeg fuddsoddi mewn darpariaeth Cymraeg yn 2015, cafodd pedwar myfyriwr eu derbyn.
Eleni mae 26 o fyfyrwyr wedi dechrau ar y cwrs.
Yn ogystal mae nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl yn yr ysgol wedi cynyddu o 18 yn 2015/16 i 33 eleni.
Bydd y myfyrwyr cyntaf i astudio drwy'r Gymraeg yn graddio yn 2020.
Mae'r rhai sy'n gyfrifol am y cwrs yn dadlau bod sawl rheswm dros y cynnydd, yn cynnwys mwy o awydd i weithio mewn cymunedau dwyieithog a chryfder y dysgu.
Maen nhw'n mynnu bod y safonau ar yr ochr Gymraeg yr un mor uchel 芒'r ochr Saesneg, gyda myfyrwyr Cymraeg yn profi'r un llwyddiant mewn arholiadau.
'Ieithwedd Cymru'
Dywedodd Awen Iorwerth o Brifysgol Caerdydd: "Eleni mae ganddo ni dri gr诺p Cymraeg, 33 yn y flwyddyn gyntaf sy'n siarad Cymraeg yn rhugl a 27 sy'n siarad rhywfaint Gymraeg.
"Felly ryda ni ar y ffordd i gyrraedd y targed o adlewyrchu ieithwedd Cymru gyfan wrth dderbyn myfyrwyr meddygol o hyn ymlaen."
Mae ystadegau rhyngwladol yn profi bod myfyrwyr sy'n astudio meddygaeth yn dueddol o aros i weithio yn yr un ardaloedd lle maen nhw'n hyfforddi.
Dyna yw bwriad tymor hir nifer o fyfyrwyr Caerdydd hefyd.
Newydd ddechrau ar y cwrs mae Seren Bowen o Bwllheli.
Dywedodd: "Mae hi'n braf gallu cael y cyfle gwneud o leiaf rhan o'r cwrs yn fy iaith gyntaf, a'r iaith dwi fwyaf cyfforddus ynddi hi.
"Y freuddwyd ydy gallu gwasanaethu fy nghymuned fy hun a dychwelyd n么l i ogledd Cymru i weithio fel meddyg a gweithio gyda chleifion drwy gyfrwng y Gymraeg."
'Elfen bwysig'
Mae newyddion cadarnhaol ehangach wrth i nifer y ceisiadau i astudio meddygaeth gynyddu eto drwy Brydain.
Darpar myfyrwyr o Gymru sy'n gyfrifol am ganran uchaf y cynnydd hwnnw.
Un arall sydd newydd ddechrau'r cwrs yw Efa Celyn Davies o Ysbyty Ifan, a ddywedodd fod gallu gwneud y cwrs drwy'r Gymraeg wedi bod yn elfen bwysig cyn iddi ddewis Caerdydd fel lleoliad.
"Dwi'n teimlo ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn cael eu trin drwy eu hiaith gyntaf gan wneud iddyn nhw deimlo'n fwy cyfforddus ac i rannu eu teimladau yngl欧n 芒'r ffordd maen nhw'n teimlo.
"Mi wnes i ddod yma ar ddiwrnod agored ac mi oedden nhw i gyd yn hapus i weld Cymry Cymraeg ac roedden nhw eisiau i ni ddod ar y cwrs ac roedd o'i gyd yn swnio mor gyffroes," meddai.