Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Chwaraewr Y Bala, 24 oed, yn brwydro canser
Mae chwaraewr canol cae'r Bala, Daniel Gosset wedi datgelu ei fod yn brwydro canser.
Mewn datganiad gafodd ei ryddhau drwy'r clwb ddydd Iau, dywedodd y g诺r 24 oed ei fod wedi cael diagnosis o non-Hodgkin Lymphoma, math o ganser y gwaed.
Mae Gosset, sy'n gyn-ddisgybl Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon, hefyd wedi cynrychioli'r Seintiau Newydd, Dinas Bangor, Oldham Athletic a th卯m lled-broffesiynol Cymru.
"Mae'r gefnogaeth dwi wedi cael gan bobl ers darganfod 'mod i'n s芒l wedi bod yn anhygoel a dwi wir yn ddiolchgar i bawb sydd wedi bod mewn cysylltiad," meddai.
Diolchodd i ffisiotherapydd y clwb, Ffiona Evans, am ei annog i gael profion pellach ar 么l iddo gael poen "anarferol" yn ei goes.
"Dwi'n lwcus iawn o fod yn rhan o glwb mor arbennig ac mi fydda i'n gwneud popeth o fewn fy ngallu i fod 'n么l ar y cae ym Maes Tegid cyn gynted 芒 phosib."