Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Brechu moch daear i geisio dileu'r diciâu mewn gwartheg
- Awdur, Steffan Messenger
- Swydd, Gohebydd Amgylchedd 91Èȱ¬ Cymru
Mae cannoedd o foch daear yn cael eu brechu fel rhan o ymdrechion i ddileu'r diciâu ymhlith gwartheg ar benrhyn Gŵyr.
Bydd y cynllun pedair blynedd yn cydweithio gyda ffermwyr ar fesurau i leihau'r risg o heintio'u hanifeiliaid.
Mae'r rhai sy'n cefnogi'r prosiect yn amrywio o Lywodraeth Cymru i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe.
Y gobaith yw y bydd yn ffurfio sail i fynd i'r afael â'r afiechyd mewn ardaloedd eraill.
Awyddus i gydweithio
"Mae'r prosiect yma'n unigryw," meddai Dafydd Saunders Jones, cadeirydd bwrdd Dileu TB De Ddwyrain Cymru.
"Dyma'r unig un rwy'n ymwybodol ohono sy'n cynnwys pob aelod o'r gymuned - o ffermwyr a milfeddygon i sefydliadau fel y cyngor, clwb pêl-droed, parciau carafannau, Canolfan Treftadaeth Gŵyr ac eraill.
"Mae TB ymhlith gwartheg yn effeithio ar nifer o bethau - ar dwristiaeth, iechyd meddwl ffermwyr a'r amgylchedd. Mae pobl yn deall hynny a dyna pam maen nhw'n awyddus i weithio gyda ni.
"Y gobaith yw y gallwn ffurfio cynllun fydd modd ei ddefnyddio mewn mannau eraill ledled y wlad a dangos bod modd sicrhau canlyniadau drwy weithio gyda'n gilydd."
Rhoi brechiadau i'r moch daear yw'r cam cyntaf, yna bydd rhaglen benodol yn ymwneud â ffermwyr, sy'n cynnwys bioddiogelwch a rheoli risg.
Gobaith y tîm yw treialu profion newydd ar wartheg yn yr ardal hefyd gan weithio gyda phrifysgolion Aberystwyth, Caerdydd a Warwick.
'Cwestiynau'n parhau'
Un o'r rhai sy'n arwain y prosiect yw'r milfeddyg lleol, Ifan Lloyd, fydd yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa.
"Mae 'na dystiolaeth bod brechu moch daear yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd y boblogaeth ond mae cwestiynau'n parhau ynglŷn â sut mae hynny'n treiddio drwy ac yn amddiffyn gwartheg o'r clefyd."
Bydd baw moch daear yn cael ei gasglu er mwyn asesu newidiadau i lefelau'r afiechyd wrth i'r brechiadau gael effaith.
Y nod yw targedu 70% o boblogaeth moch daear penrhyn Gŵyr - sydd, yn ôl yr amcangyfrif, rhwng 600 a 1,200.
Dywedodd Mr Lloyd fod yr ardal yn "leoliad perffaith" i dreialu dulliau o fynd i'r afael â'r afiechyd.
"Fel penrhyn, mae wedi'i amgylchynu gan y môr, gyda dinas Abertawe ar un pen - mae'n ynys i bob pwrpas.
"Ond hefyd mae hanes yma o'r clefyd - mae wedi bod yn broblem ers 1994, gyda chyfraddau ddwywaith uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol."
Angen £100k y flwyddyn
Llywodraeth Cymru sy'n cyllido traean o'r cynllun fel rhan o'i rhaglen dileu TB.
Mae'r llywodraeth yma wedi diystyru caniatáu i foch daear gael eu difa fel sy'n digwydd mewn rhannau o Loegr.
Ond bydd angen i'r gymuned godi tua £100,000 y flwyddyn drwy fuddsoddiadau a grantiau gan fusnesau lleol ac eraill.
Mae ffermwr lleol, Alan Lloyd, yn gefnogol iawn i'r cynllun, gyda'r tîm eisoes wedi rhoi brechiadau i anifeiliaid mewn chwe ffau ar ei dir.
"Os ydyn ni'n ei anwybyddu, fydd e ddim yn diflannu. Mae ffermwyr yn cael miliynau o bunnau o iawndal pan mae eu gwartheg yn cael eu cymryd oherwydd TB - a fyddai modd gwario'r arian yna'n well.
"Nid yr arian yw'r unig beth - mae cael TB ar ffermydd yn achosi straen," meddai.
Cynhadledd TB gyntaf
Yn y cyfamser, mi fydd y gynhadledd flynyddol gyntaf i fynd i'r afael â TB ymhlith gwartheg yn cael ei chynnal yn ddiweddarach ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Bydd gwyddonwyr, ffermwyr a milfeddygon blaenllaw yn canolbwyntio ar ddatblygiadau.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 11,977 o wartheg yng Nghymru wedi'u lladd oherwydd TB yn y 12 mis hyd at Ebrill 2019.
Mae hynny'n gynnydd o 19% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol a'r nifer uchaf o wartheg sydd wedi eu lladd mewn 10 mlynedd.