Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Drakeford: Ymosodiad chwyrn ar lywodraeth Boris Johnson
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi beirniadu Llywodraeth y DU yn hallt, wrth i Aelodau Cynulliad ddychwelyd o'u gwyliau haf yn gynnar.
Mewn ymosodiad chwyrn, dywedodd Mr Drakeford fod llywodraeth Boris Johnson "wedi colli pob parch tuag at y gwir" a hefyd wedi colli "ei chwmpawd moesol".
Cafodd Aelodau Cynulliad eu galw n么l er mwyn pleidleisio ar os oedd penderfyniad Boris Johnson i atal gwaith Senedd San Steffan yn "warth" neu beidio.
Daw yn sgil pryderon bod yr ataliad i'r Senedd yn ymgais i gyfyngu ar yr amser i ASau drafod Brexit.
Ond mae Arweinydd y Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd, Paul Davies, yn dweud bod y ddadl yn "st峄硁t" sy'n mynd "dros ben llestri".
Mae'r Llywydd, Elin Jones, wedi gwadu honiadau ei bod hi'n dangos tuedd ar Brexit drwy ail-alw'r Senedd ym Mae Caerdydd.
'Argyfwng mwyaf ers Iwerddon'
Wrth feirniadu Mr Johnson, dywedodd Mark Drakeford: "Mae llywodraeth sydd heb barch at wirionedd wedi fforffedu'r parch y mae ein democratiaeth yn dibynnu arno.
"Dyna pam mae'n hanfodol ein bod yn gyrru neges glir o gefnogaeth i'r rheini yn San Steffan ac yn y llysoedd sydd nawr yn brwydr yn erbyn y camddefnydd yma o b诺er."
Yn 么l y gyfraith bresennol bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Hydref.
Ond nos Fercher, fe wnaeth Aelodau Seneddol gefnogi mesur yn gorfodi'r prif weinidog i ofyn am estyniad i Brexit os nad oes cytundeb rhwng yr UE a'r DU.
Yn y sesiwn, fe wnaeth y Ceidwadwr David Melding hefyd feirniadu Boris Johnson, gan ddweud bod y DU yn wynebu'r "argyfwng mwyaf ers yr argyfwng yn Iwerddon".
Dywedodd bod Brexit heb gytundeb yn "risg uchel fydd yn cael ei orfodi ar y mwyaf bregus" ac na fyddai'n rhan o hynny.
Ychwanegodd nad oedd yn amser "gyrru'r rhyddfrydwyr allan o'r blaid Geidwadol" - wrth gyfeirio at yr ASau sydd wedi colli chwip y blaid am wrthwynebu'r llywodraeth.
Bydd Aelodau Cynulliad yn pleidleisio ar gynnig, sydd wedi 'i arwyddo gan Lafur Cymru a Phlaid Cymru, bod atal y Senedd yn "warth cyfansoddiadol" mewn cyfnod o argyfwng cenedlaethol.
Mae'n dweud y byddai Brexit heb gytundeb yn achosi trafferthion byr dymor sylweddol yn ogystal 芒 niwed hir dymor i Gymru.
Y prif gynnig sydd 芒'r cyfle gorau o basio, ond mae ffynonellau wedi dweud wrth 91热爆 Cymru bod ACau Llafur yn ystyried cefnogi gwelliant Plaid Cymru yn galw am ddiddymu Erthygl 50.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, bod "llanast San Steffan" yn "cynrychioli system sydd wedi torri ac yn arwydd clir bod angen i ni yng Nghymru lansio trafodaeth adeiladol am ein dyfodol".
Mae Plaid Brexit yn bwriadu gofyn i ACau gefnogi "toriad clir" drwy Brexit, "yn sgil methiant llawer o ASau i dderbyn canlyniad refferendwm 2016 ac anhyblygrwydd yr UE wrth drafod".
Dywedodd Mr Davies: "Mae galw'r senedd yma yn 么l gan Lafur a Phlaid Cymru yn ddim ond st峄硁t wleidyddol sy'n mynd dros ben llestri."
Mae Mr Gething wedi dweud bod "canlyniadau real a niweidiol" i adael heb gytundeb, a bod y bleidlais yn "gyfle i aelodau yn y Cynulliad roi eu barn ar fater o argyfwng gwirioneddol".
Dywedodd AC UKIP, Gareth Bennett, na fyddi'n cymryd rhan yn y bleidlais.
'Ystyried barn y mwyafrif'
Ar raglen Post Cyntaf ar 91热爆 Radio Cymru fore Iau, bu'r Llywydd, Elin Jones, yn amddiffyn ei phenderfyniad i adalw'r Cynulliad yn gynt.
"Rwyf wedi h锚n arfer erbyn hyn a sylweddoli bod pob penderfyniad dwi'n 'neud yn mynd i gael ei gefnogi gan rhai aelodau a peidio cael ei gefnogi gan eraill", meddai.
"Wrth edrych yn 么l ar y penderfyniadau dwi wedi eu cymryd dros y misoedd diwethaf 'ma, dwi'n siwr na all Blaid Brexit fod o farn lle dwi ddim wedi cymryd ambell i benderfyniad lle 'ma nhw 'di bod yn hapus iawn gyda'r penderfyniad hynny, ac aelodau eraill o bleidiau eraill wedi bod yn anhapus.
"Felly dwi'n troedio llwybr sydd yn sicrhau bod barn y mwyafrif yn cael ei ystyried ar bob agwedd, ond hefyd bod barn a llais y pleidiau lleiafrifol - gan gynnwys Plaidy Brexit, UKIP ar adegau eraill ac aelodau anibynnol - yn cael eu llais."