Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cannoedd yn protestio yn erbyn atal y Senedd
Mae cannoedd o bobl wedi bod yn protestio yng Nghaerdydd yn erbyn penderfyniad y Prif Weinidog i atal y Senedd yn yr wythnosau cyn y mae disgwyl i'r DU adael yr UE.
Dywedodd yr heddlu bod tua 700 o bobl wedi casglu ar Heol y Frenhines nos Fawrth.
Roedd protest debyg yn y brifddinas dros y penwythnos, yn ogystal ag amryw o leoliadau ledled Cymru.
Daw wrth i ASau'r gwrthbleidiau a rhai Ceidwadwyr geisio pasio deddfwriaeth gyda'r nod o atal Brexit heb gytundeb.
Mae disgwyl i 34 o'r 40 AS Cymru bleidleisio o blaid cymryd rheolaeth o amserlen y Senedd.
Pwrpas y mesur yw cymryd rheolaeth o amserlen T欧'r Cyffredin ddydd Mercher, fyddai yn ei dro yn caniat谩u dadl ar orfodi Boris Johnson i ymestyn dyddiad Brexit tan 2020 oni bai fod ASau yn cymeradwyo cytundeb newydd, neu yn pleidleisio o blaid Brexit heb gytundeb erbyn 19 Hydref.