Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Trais yn y cartref: Mwy o achosion llwyddiannus yn llysoedd Cymru
Mae nifer yr achosion o drais yn y cartref sy'n cyrraedd llysoedd Cymru'n parhau i gynyddu, er gwaethaf gostyngiad sylweddol mewn achosion troseddol dros y 10 mlynedd diwethaf.
O'r 29,000 o achosion y mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn ymdrin 芒 nhw yng Nghymru bob blwyddyn, mae tua 6,000 yn ymwneud 芒 thrais domestig, medd Prif Erlynydd Y Goron yng Nghymru, Barry Hughes.
Dywedodd bod yna "heriau" yn sgil y ffaith bod dioddefwyr yn aml eisiau i'r heddlu ymyrryd ond hefyd yn dymuno parhau 芒'u perthynas gyda'u partneriaid.
Mae'r ystadegau diweddaraf yn amlygu bod llys wedi cael diffynnydd yn euog mewn 78% o'r 6,643 o achosion yng Nghymru.
Roedd y canran isaf - 74% - yn ardal Heddlu De Cymru a'r uchaf - 80.9% yn ardal Heddlu'r Gogledd.
"10 mlynedd yn 么l roedd yn llai na 70%, felly rydym wedi gwella ac yn erlyn mwy o achosion, er bod un cymar yn aml eisiau tynnu'n 么l," meddai Mr Hughes.
Un newid mawr, fe ychwanegodd, yw'r camer芒u corff y mae heddweision yn eu gwisgo, sy'n gallu helpu llonyddu sefyllfa, ond sydd hefyd yn casglu tystiolaeth allweddol.
Y gwaith yn 'fwy cymhleth'
Daw sylwadau Mr Hughes ar ddechrau cyfres gan 91热爆 Wales News Online sy'n taflu goleuni ar lysoedd ynadon Cymru.
Yn sgil llymder y blynyddoedd diwethaf, mae'r CPS yng Nghymru a'r DU wedi crebachu tua 30%, ond mae gostyngiad tebyg wedi bod yn llwyth gwaith y gwasanaeth hefyd.
Yn 么l Mr Hughes, mae'r gwaith bellach "yn fwy cymhleth" ac mae'n gallu cymryd cryn amser i ddadansoddi'r dyfeisiadau digidol sydd yn ffactor yn nifer helaeth o achosion erbyn hyn.
"Mae rhywfaint o oedi nawr rhwng cysylltu 芒'r heddlu a gwrandawiad cyntaf mewn llys," meddai. "Ond yng Nghymru, unwaith maen nhw'n cyrraedd llys, maen nhw'n mynd rhagddynt yn gyflym.
"Yn y llysoedd ynadon rydyn ni'n cyfri' o'r dechrau i'r diwedd ac mae'n gyflymach nag unrhyw le yn Lloegr."
"Mae [hynny'n] creu pwysau, ond mae pawb yn gwybod bod angen bod yn barod - rydym yn gwneud mwy o ymdrech.
"Ar y cyfan, mae'n well gen i ddelio ag achosion yn gyflym. Mae yna lai gall fynd o'i le."
Ers dod yn Brif Weinidog y DU, mae Boris Johnson wedi ymroddi i roi 拢85m i'r CPS ar draws y DU, penodi 20,000 o heddweision newydd a chreu 10,000 o lefydd carchar ychwanegol.
"Bydd y llwyth gwaith yn amlwg yn codi yn sgil 20,000 o swyddogion ychwanegol, ond mae'n aneglur pryd," meddai Mr Hughes. "Gymrith amser i benodi, hyfforddi a rhoi swyddogion ar y rheng flaen.
"Bydd yna groeso o'r 拢85m ychwanegol dros ddwy flynedd. Bydd arian ychwanegol yn golygu mwy o staff.
"Buon ni trwy gyfnod rhwng 2010 a 2015 ble nad oedden ni'n gallu penodi staff newydd pan oedd pobl yn gadael. Roedd yna bwysau gwirioneddol arnom ni oll.
"Mae'n dal yn brysur iawn - mae'r ffaith bod achosion yn fwy cymhleth yn golygu bod mwy i'w wneud ymhob achos ond mae yna lai ohonyn nhw."