Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Peidio gadael yr UE yn 'bradychu ein democratiaeth'
Byddai peidio gadael yr Undeb Ewropeaidd yn "fradychiad ofnadwy o'n democratiaeth", yn 么l cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad.
Dywedodd Andrew RT Davies y byddai peidio cyflawni Brexit yn "fygythiad gwirioneddol i ddyfodol y Deyrnas Unedig".
Ond mynnodd AC Canol De Cymru ei fod yn hyderus iawn y bydd y DU yn gadael ar 31 Hydref - gyda chytundeb ai peidio.
Ychwanegodd mai'r UE fyddai'n gyfrifol os yw'r Deyrnas Unedig yn gadael heb ddod i gytundeb.
Dywedodd Mr Davies wrth raglen Sunday Supplement ei fod yn gobeithio gweld y DU yn gadael yr UE gyda chytundeb, ond ei fod yn fodlon derbyn Brexit heb gytundeb.
"Dwi'n gobeithio y bydd gwirionedd y sefyllfa yn dod yn glir i'r ddwy ochr nawr... a bod modd dod i gytundeb erbyn 31 Hydref a symud 'mlaen i ddatblygu perthynas lle mae'r ddwy ochr yn elwa," meddai.
"Os nad ydyn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, dwi'n meddwl y byddai hynny yn fradychiad ofnadwy o'n democratiaeth.
"Dwi ddim yn dweud hynny fel cefnogwr Brexit, dwi'n deud hynny oherwydd canlyniad y refferendwm ym Mehefin 2016.
"Dydy hyn ddim yn ymdrech i anwybyddu'r rhai sydd o blaid aros - mae eu barn nhw hefyd yn bwysig yn hyn.
"Ond fel gwleidydd, pan rydych chi'n derbyn cyfarwyddiadau clir mae'n rhaid gweithredu. Os ddim, yna mae democratiaeth ar chw芒l."
'Penderfyniad cywir'
Fe wnaeth Mr Davies ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad ym mis Mehefin 2018.
Mae'r AC yn credu iddo wneud y penderfyniad cywir wrth adael er mwyn gwneud lle i "waed newydd arwain y blaid" - a hynny cyn iddo gael ei "wthio dan y bws".
Roedd rhai aelodau o'r blaid yn feirniadol o benderfyniad Mr Davies i groesawu cyn-AC UKIP, Mark Reckless i gr诺p y Ceidwadwyr yn y Cynulliad yn 2017.
Fe wnaeth Mr Reckless adael y Ceidwadwyr er mwyn cynrychioli UKIP cyn cynhadledd y blaid yn 2014.
"Ar y pryd dwi'n meddwl mai croesawu Mark i'r gr诺p oedd y peth iawn i'w wneud, a dros amser dwi'n meddwl bod y penderfyniad hwnnw wedi cael ei gyfiawnhau.
"Dwi'n meddwl bod Mark wedi cyfrannu at gryfder gr诺p y Ceidwadwyr yn y Cynulliad dros y ddwy flynedd a hanner y mae o wedi bod yn aelod."