Hunan-niweidio mewn carchardai yng Nghymru ar gynnydd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bu 3,024 achos o hunan-niweidio yng ngharchardai Cymru y llynedd

Mae nifer yr achosion o hunan-niweidio mewn carchardai yng Nghymru wedi cyrraedd eu lefelau uchaf erioed, yn 么l adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

Yn seiliedig ar wybodaeth ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a ffigyrau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae'r adroddiad yn dangos bod nifer yr achosion o hunan-niweidio wedi codi 16% yn ystod y flwyddyn hyd at Fawrth 2019.

Yn ogystal cafodd mwy o gyffuriau eu canfod - 61% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.

Bu cynnydd sylweddol hefyd yn nifer y digwyddiadau oedd yn ymwneud ag arfau.

Mae'r adroddiad yn dangos bod y gyfradd garcharu yng Nghymru yn parhau i fod yn uwch na'r un yn Lloegr.

Datgelir hefyd fod rhagor o bobl o dan oruchwyliaeth brawf yng Nghymru o gymharu 芒 Lloegr.

Dywedodd awdur yr adroddiad, Dr Robert Jones: "Mae ein canfyddiadau yn datgelu cyfres o broblemau parhaus yng Nghymru sy'n cynnwys mwy o achosion nag erioed o'r blaen o hunan-niweidio, canfod cyffuriau a dod o hyd i arfau.

"Mae cyfraddau cynyddol y bobl ddigartref sy'n mynd i'r carchar a chyfran anghymesur y carcharorion o leiafrifoedd ethnig hefyd yn parhau i fod yn broblemau difrifol."

822% yn fwy o gyffuriau

Yn 2018, cynyddodd nifer yr achosion o hunan-niweidio 200% yng Ngharchar Brynbuga, 89% yng Ngharchar Caerdydd, a 56% yng Ngharchar Abertawe.

Cafwyd 4% yn llai o achosion yng Ngharchar y Parc ond er gwaethaf y gostyngiad, roedd pedwar achos o hunan-niweidio yn cael eu cofnodi yno bob dydd ar gyfartaledd.

Disgrifiad o'r llun, Cynyddodd yr achosion o hunan-niweidio yng Ngharchar Abertawe 56%

Gyda'i gilydd, gan gynnwys Carchar y Berwyn, bu 3,024 achos o hunan-niweidio yng ngharchardai Cymru y llynedd.

Tra bod nifer y carcharorion o dan glo yng Nghymru (heb gynnwys Carchar Y Berwyn) wedi cynyddu 5% ers 2013, mae nifer yr achosion o ganfod cyffuriau yng ngharchardai Cymru (heb gynnwys y Berwyn) wedi cynyddu 822% yn ystod y cyfnod hwn.

Y cynnydd yng Nghymru a Lloegr oedd 333%.

Carchar Caerdydd oedd 芒'r gyfradd uchaf o ganfod cyffuriau (51 o bob 100 carcharor) tra bod y gyfradd uchaf o ganfod arfau yng Ngharchar Y Berwyn.

Dyfodol polis茂au cosbi

Mae'r adroddiad yn nodi bod nifer y bobl o dan glo wedi cynyddu yng ngharchardai Cymru yn 2018 oherwydd y cynnydd yn nifer y carcharorion yng Ngharchar y Berwyn a agorodd yn 2017.

Yng Ngharchar y Berwyn y cofnodwyd y gyfradd uchaf o ymosodiadau ar staff yn 2018.

Ychwanegodd Dr Jones: "Gall ein gwaith parhaus ym maes cyfiawnder yng Nghymru gyfrannu at drafodaethau pellach yn y dyfodol am batrwm polis茂au cosbi.

"Efallai bydd trafodaethau yn y dyfodol am fabwysiadu ymagwedd fwy cymharol drwy ddefnyddio tystiolaeth o arferion gorau mewn gwledydd eraill. Dyma bwnc yr ydym yn edrych i mewn iddo ar hyn o bryd."