Diwrnod gwobrwyo dramodydd a chyfraniad i'r maes natur

Seremoni'r Fedal Ddrama fydd prif ddefod llwyfan y pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy ddydd Iau.

Mae gofyn i'r ymgeiswyr gyfansoddi drama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd ac mae'r trefnwyr wedi derbyn 11 o geisiadau eleni.

Beirniaid y gystadleuaeth yw Gethin Evans, Branwen Cennard a Bethan Marlow.

Mewn cyflwyniad arall ddechrau'r prynhawn fe wnaeth y naturiaethwr, Twm Elias dderbyn y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg am ei gyfraniad i faes bywydeg a natur yng Nghymru.

Mae'r Fedal Ddrama yn cael ei rhoi eleni er cof am Urien Wiliam gan ei wraig, Eiryth, a'r plant, Hywel, Sioned a Steffan.

Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli sydd wedi cyfrannu'r wobr ariannol, sef 拢750.

Disgrifiad o'r llun, Mae drama fuddugol Rhydian Gwyn Lewis o'r llynedd yn cael ei llwyfannu yn y Brifwyl eleni

Rhydian Gwyn Lewis ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth y llynedd yng Nghaerdydd am y ddrama 'Maes Gwyddno'.

Mae'r ddrama'n cael ei pherfformio yn Theatr y Maes eleni dan y teitl 'X' a chyfarwyddyd Ffion Dafis yn sgil partneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a Theatr Genedlaethol Cymru.

'Neb tebyg'

"Does neb tebyg i Twm Elias," dywedodd trefnwyr yr Eisteddfod yn gynharach eleni wrth gyhoeddi mai'r g诺r o Nebo, Gwynedd sy'n derbyn y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg yn Llanrwst.

Mae'n adnabyddus fel darlledwr ac awdur erthyglau a chyfrolau am wyddoniaeth a'r byd natur.

Disgrifiad o'r llun, Twm Elias yn gwisgo'r fedal yn ystod y cyflwyniad ar lwyfan y pafiliwn ddydd Iau

Roedd yn gweithio fel darlithydd maes ym Mhlas Tan y Bwlch, Canolfan Astudio Parc Cenedlaethol Eryri, tan iddo ymddeol yn 2014.

Fe oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas Edward Llwyd, ac ysgrifennydd Cymdeithas Llafar Gwlad ers ei sefydlu 40 mlynedd yn 么l.

Mae hefyd yn lais cyfarwydd i wrandawyr rhaglen Galwad Cynnar ar Radio Cymru.

Dywedodd ddydd Iau ei fod yn falch o fod wedi gallu cyfrannu at gynyddu'r defnydd o dermau Cymraeg wrth drafod y byd natur.

"Os ydy'r hen iaith 'ma yn mynd i barhau a datblygu, mae'n rhaid mynd 芒 hi i lot o gyfeiriadau gwahanol," meddai.

Nos Iau fe fydd Gig y Pafiliwn yn cyfuno cerddoriaeth ddawns a chlwb gydag offerynnau clasurol wrth i Huw Stephens gyflwyno Diffiniad, Eden, Lleden a Cherddorfa'r Welsh Pops.