Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Boris Johnson i fod yn Brif Weinidog newydd y DU
Mae Boris Johnson wedi ei ethol fel arweinydd newydd y Blaid Geidwadol a Phrif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig.
Enillodd cyn-Faer Llundain y ras i olynu Theresa May gyda 92,153 o bleidleisiau, gyda'i wrthwynebydd, Jeremy Hunt yn cael 46,656.
Roedd 87.4% o aelodau'r Blaid Geidwadol a oedd yn gymwys i bleidleisio (159,320) wedi gwneud hynny.
Yn ei araith wedi'r cyhoeddiad, dywedodd Mr Johnson y bydd yn "cyflawni Brexit, uno'r wlad a threchu Jeremy Corbyn".
Bydd yn dechrau yn ei r么l newydd fel Prif Weinidog ddydd Mercher.
Ymddiswyddiadau
Wedi'r cyhoeddiad, dywedodd Mrs May y bydd hi'n rhoi ei "chefnogaeth lawn" i Mr Johnson o'r meinciau cefn.
Ond mae dau weinidog eisoes wedi ymddiswyddo mewn gwrthwynebiad i benodiad Mr Johnson.
Mae Syr Alan Duncan wedi gadael ei r么l yn y Swyddfa Dramor, ac Anne Milton wedi gadael ei r么l yn y Swyddfa Addysg.
Mae'r Canghellor Philip Hammond, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder David Gauke a'r Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol Rory Stewart hefyd wedi dweud y byddan nhw'n ymddiswyddo pe byddai Mr Johnson yn ennill.
Yr ymateb o Gymru
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi dymuno'n dda iddo, gan alw am "aeddfedrwydd" gwleidyddol.
Ond dywedodd arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts fod penodiad Mr Johnson yn "anrheg" i'r mudiad annibyniaeth yng Nghymru.
"Yn ystod yr argyfwng gwleidyddol mwyaf mewn degawdau, mae clown ar fin dod yn brif weinidog. Ond nid yw hyn yn j么c," meddai.
Yn siarad o'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, dywedodd Llywydd NFU Cymru, John Davies y bydd yn ysgrifennu at y Prif Weinidog newydd i'w rybuddio bod gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn "fygythiad gwirioneddol i ddyfodol" y diwydiant amaeth.
Dywedodd cyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood bod "gennym ni bellach ddyn hiliol a rhagfarnllyd yn Brif Weinidog".