Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ailagor rhan o reilffordd cyn yr Eisteddfod Genedlaethol
Bydd lein reilffordd yn ailagor yn rhannol ddydd Iau, bedwar mis ar 么l cael ei difrodi gan Storm Gareth.
Mae Network Rail wedi bod yn gweithio i atgyweirio'r lein yn Nyffryn Conwy cyn i'r Eisteddfod Genedlaethol ddechrau yn Llanrwst ym mis Awst.
Bydd y lein yn agor rhwng Cyffordd Llandudno a Gogledd Llanrwst ddydd Iau, a'r gweddill - sy'n ymestyn i Flaenau Ffestiniog - yn agor ar 24 Gorffennaf.
O ganlyniad i'r difrod a achoswyd ym mis Mawrth, mae chwe milltir o'r rheilffordd, gorsaf Dolgarrog, deg croesfan a naw ffos wedi cael eu hatgyweirio.
Yn ogystal 芒'r gwaith atgyweirio, mae'r cyflymdra wedi'i gynyddu drwy bentref Maenan, rhwng Dolgarrog a Gogledd Llanrwst, o 30mya i 45 mya.
Bydd Network Rail a Trafnidiaeth Cymru yn cynnal trip tr锚n stem o Gaer i Flaenau Ffestiniog ar ddydd Sadwrn 3 Awst.