Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Yr actores Hannah Daniel
Yr actores Hannah Daniel sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, ar 么l iddi gael ei henwebu gan Daf Palfrey yr wythnos diwethaf.
Mae Hannah yn gyfarwydd i gynulleidfa S4C am ei rhannau ar Pen Talar a Gwaith Cartref, ynghyd 芒 chyfresi a gafodd eu ffilmio yn Gymraeg a Saesneg, sef Y Gwyll/Hinterland ac Un Bore Mercher/Keeping Faith. Mae ail gyfres Keeping Faith yn cael ei darlledu ar 23 Gorffennaf ar 91热爆 One.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cropian o du cefn cornel wal y gegin drosodd a throsodd, a Mam yn esgus bo' fi'n codi braw arni bob tro. G锚m hynod o boring iddi hi, mae'n si诺r - chware teg iddi.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Paul Nicholls, Shane o 91热爆 and Away a George a Sandra C'mon Midff卯ld.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Rhoi cyngor sgwennu i'r awdur a chyfarwyddwr ffilmiau Alex Garland (do'n i'm yn gwbod mai gyda fe o'n i'n siarad tan tua awr yn ddiweddarach).
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Dwi chwe mis yn feichiog felly dwi'n cr茂o'n arbennig o dda ar y funud. Nes i gr茂o'n y theatr neithiwr. Nes i gr茂o yn gwylio Toy Story 4 gynne. Nes i feichio cr茂o cwpwl o ddyddie yn 么l pan glywes i bo'n chwaer fach wedi gneud yn dda yn ei harholiadau diwedd blwyddyn yn y coleg...
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Fi'n anhaclus, ddi-drefn, a fi'n benthyg pethe ac anghofio rhoi nhw n么l weithie.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Trefdraeth, Sir Benfro. Ma' teulu Mam a Dad 芒 gwreiddiau yn Sir Benfro a fel plant o'n ni'n mynd yno drwy'r amser ar wylie. Ma' bwthyn bach ym mhentref Trefdraeth gyda teulu Mam ac mae'r atgofion o'n plentyndod yno yn rhai hapus iawn. Mae mynd n么l yno'n teimlo'n arbennig bob tro. Fel bath cynnes i'r enaid.
O archif Ateb y Galw:
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Gormod i'w dewis. Nosweithi di-h卯d pan yn fyfyriwr - roedden ni'n byw mewn t欧 gyferbyn 芒'n ffrindie - wyth i ddeg ohonon ni ar yr un stryd yn Llunden am dair blynedd. Fel Friends ond lot mwy budget.
Neu nosweithi 28 Llandaf Road, Canton: part茂on yn y garej ardd gefn gyda'r bocs gwisg ffansi, ymysg yr home gym a'r cement mixers... dyddiau da.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Sentimental, pendant, amhendant.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Llyfr: A Confederacy of Dunces, gan John Kennedy Toole. Ffilm: All About Eve.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Bette Davis. Un o'n hoff actoresau, gydag enaid gwyllt o'dd yn lico diod cryf ac yn smygu fel simne. Dychmygwch yr hwyl.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Nes i iste am ddeg diwrnod o meditation heb siarad. Dim cyswllt 芒'r byd tu allan o gwbwl am y cyfnod.
Hefyd, dwi'n gallu ffitio'n nwrn cyfan yn fy ngheg.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Rhedeg drwy'r strydoedd yn noeth yn dyfynnu Walt Whitman. Nofio'n y m么r. Taflu parti mawr ar ei ddiwedd. Dawnsio, canu a diolch i bawb am y pleser.
Beth yw dy hoff g芒n a pham?
Roy Orbison - You Got It. Mae'n atgoffa fi o'n nhad. Doedd e ddim yn fawr o ffan o gerddoriaeth poblogaidd ond o'dd un t芒p pop gyda fe o'n ni'n chware 'da'n gilydd yn y car. Y g芒n hon o'dd fy ffefryn.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Wystrys i ddechre. Kimchi Broth o fwyty Kimchi, Cowbridge Road, Caerdydd. Wedyn n么l i d欧 rhywun cyfagos am gaws a port.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Debbie Harry yn y 70/80au. Dwi'n marw ishe bod mewn band.
Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Mared Swain