Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyngor Caerdydd yn cyhoeddi gweledigaeth i leihau traffig
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi eu gweledigaeth i drawsnewid y system drafnidiaeth yn y brifddinas.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys llinell reilffordd i gysylltu dwyrain a gorllewin Caerdydd, a llinell arall fyddai'n mynd o amgylch y ddinas.
Nod y cynllun, fyddai'n costio 拢1bn, yw lleihau traffig a gwella ansawdd aer yng Nghaerdydd.
Dan y cynllun byddai Caerdydd yn troi'n ddinas 20mya, gyda llwybrau cerdded a seiclo newydd yn cael eu creu i annog pobl o'u ceir.
Wrth siarad yng Nghynhadledd Llywodraeth Cymru ar Deithio Llesol, dywedodd arweinydd y cyngor, Huw Thomas ei bod yn "amser gweithredu ar anghenion trafnidiaeth y ddinas".
Byddai'r mesurau newydd yn cynnwys:
- Tr锚n Bach Caerdydd - llinell reilffordd/tram newydd ysgafn o'r dwyrain i'r gorllewin, gan gysylltu canolfannau poblogaeth mawr a maestrefi newydd yn y gorllewin 芒 Chanol Caerdydd;
- Cylchred Caerdydd - llinell reilffordd/tram ysgafn i gysylltu ardaloedd preswyl mawr 芒'r rhwydwaith trafnidiaeth;
- Parcio a theithio ger cyffordd 32 yr M4 wedi'i gysylltu 芒'r Gylchred;
- Rhwydwaith Trafnidiaeth Bws Cyflym newydd sy'n defnyddio cerbydau gwyrdd a thrydanol;
- Beicffyrdd a llwybrau cerdded diogel newydd sy'n cysylltu 芒 rhwydweithiau bws, tr锚n a thram;
- System docynnu integredig sy'n galluogi defnyddwyr i symud o un dull trafnidiaeth i'r llall yn hawdd;
- Gwneud Caerdydd yn ddinas 20mya.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Mae angen i rwydwaith trafnidiaeth Caerdydd newid.
"Cafodd ei ddylunio'n wreiddiol i ddinas 芒 phoblogaeth o 200,000 ond heddiw mae ein poblogaeth yn agosach at 400,000 ac mae 80,000 o bobl yn ychwanegol yn teithio i'r gwaith yn y ddinas yn eu ceir bob dydd.
"Mae'n amlwg i bawb nad yw'r sefyllfa'n gynaliadwy. Mae gennym rwydwaith sydd eisoes yn gwegian. Mae popeth yn stopio os yw un ffordd yn y ddinas yn cau.
"Mae'n amlwg na fyddwn yn llwyddo dros nos, ond heddiw rydym yn cyflwyno dyhead y cyngor gan gydnabod yn llawn y bydd angen gweithio'n effeithiol gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.
"Mae angen hefyd drafodaeth gyhoeddus ddwys am sut mae modd ariannu'r weledigaeth hon."