Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Sain Ffagan yn ennill gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn
Mae Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan wedi cael ei chyhoeddi fel enillydd gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn 2019.
Fe ddaeth i'r brig o flaen pedair o amgueddfeydd eraill ar draws Prydain i hawlio'r wobr o £100,000.
Dywedodd Stephen Deuchar, cyfarwyddwr Art Fund a chadeirydd beirniaid y gystadleuaeth, fod Sain Ffagan yn "crisialu diwylliant a hunaniaeth Cymru".
Y pedair amgueddfa arall ar y rhestr fer oedd HMS Caroline ym Melffast, y Nottingham Contemporary, Pitt Rivers yn Rhydychen, a'r V&A yn Dundee.
Wrth dalu teyrnged i Sain Ffagan dywedodd Mr Deuchar fod yr amgueddfa, sydd ar gyrion Caerdydd, wedi llwyddo i ddenu nifer o ymwelwyr newydd yn dilyn y datblygiadau diweddar.
"Fe gafodd y lle hudolus hwn ei wneud gan bobl Cymru ar gyfer pobl o bobman, ac mae'n un o'r amgueddfeydd mwyaf croesawgar ac atyniadol yn y DU," meddai.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
Llynedd cafodd gwerth £30m o welliannau i Amgueddfa Werin eu cwblhau, gan gynnwys adeiladau newydd a gwelliannau i'r arlwy i ymwelwyr.
Roedd y datblygiadau ar y safle yn cynnwys Bryn Eryr, fferm Oes Haearn sy'n seiliedig ar safle o oes y Rhufeiniaid, a Llys Llywelyn, sy'n seiliedig ar safle archeolegol Llys Rhosyr ar Ynys Môn.
Cafodd adeilad newydd y Gweithdy hefyd ei agor, ble mae modd gweld ac ymarfer sgiliau crefftwyr traddodiadol.